Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Cofio'r Esgyb Eingl

Caniad ar enedigaeth Sior, Tywysog Cymru Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwnad Sion Powel

COFIO'R ESGYB EINGL.

Newick, Awst 29, 1767.

ANWYL Gyfaill[1]—llyma ateb i lythyr yr hen Glochydd mwyn. Yr wyf yn erfyn arnoch fod mor fwyn a'i ddanfon iddo, â chaead yn ei gylch. Da iawn yw gennyf glywed oddi wrthych. Yr oeddwn yn dirfawr ofni, gan eich bod cyhyd yn dawedog, i ryw drymder ddigwydd i chwi. Llawenydd iwch o'ch maban! Bid ail i Wilym Cybi ei ewythr. Mi a fum yn ymweled â'r Llwyd o'r Coed Yn yng Nghaint (a elwch chwi Ffau'r Fuwch)

ddechreu'r mis hwn. Yr oedd y pryd hwnnw yn iach lawen, ac fo addawodd ddyfod i ymweled à mi ryw bryd cyn Gwyl Fihangel.

Oran fy mod, a Duw yn y blaen, yn bwriadu sefydlu yn y wlad hon weithian, byddai dda gennyf ddanfon o honoch y ddau flwch lyfrau yma ataf. Diau yw mai rhy flaenllym yw'r traethawd yn erbyn yr Esgyb Eingyl; a bychan fyddai ganddynt fy nhorri yn ddeuddarn, ne fy malu yn chwilfriw. Ond mewn achos mor iawn, yr wyf yn meddwl y meiddiwn ofyn y gwaethaf a ddichon gallu dynawl ei wneuthur. A phed fawn i ddioddef ar yr achos, llyma fy nhestun "Nac ofnwch y rhai a ddichon ladd y corff, a chanddynt ddim ychwaneg i'w wneuthur, ond ofnwch yr Hwn a ddichon ladd yr enaid a'r corff yn uffern: ie meddaf, Hwnnw a ofnwch." Mi a fynnwn yn ddiau fod rhywbeth o'r fath yna wedi ei argraffu, ond nid mor flaenllym ag yw hwn yna. Y mae un Richardson wedi cyhoeddi llyfr o blaid y Gwyddelod, ag sydd yn cael yr un cam â ninnau, ag sydd wiw ei ddarllen a'i ystyried; ond ni welais i mo hono nes gorffen y traethawd_yna. Ertolwg, ymorolwch am dano ym mysg y llyfrwyr yna. Y mae o'r hyn lleiaf yn fy nhraethawd ddefnyddiau da tuag at y diben, ond bod gormod o fustl ynddo. Y mae gennyf fi ryw bapurun bychan wedi ei ysgrifenu yn ddiweddar, ag sydd yn coegi yr Esgyb Eingi yn fwy eto no'r traethawd. Y mae wedi ei ysgrifenu yn Lladin, a llyma ei deitl: "Llythyr y Parchedig Dad Ioan Elphin, Cennad Apostolaidd Cymdeithas Iesu at y Cymry Pabaidd, at y Sancteiddiaf Arglwydd Clement y Pedwerydd ar ddeg, Pab Rhufain; ym mha un y mae yn mynegi yn helaeth yng nghylch Helynt Crefydd yn y wlad honno, ac yn dangos y modd i gynnal a chynhorthwyo cyflwr alaethus y Gymdeithas honno, ag sydd yr awron ar fethu yn ardaloedd Eglwys Rhufain."

Y mae Ioan Elphin yn dywedyd y gwna'r Iesuitiaid burion offeiriaid yng Nghymru, o ran eu bod o'r un gynneddf a champau da a'r Esgyb Eingl. Y mae hwn yn finiog gethin; ond nid a e ddim o law'r awdwr oddigerth atoch chwi, pan gaffwyf gyfle, mewn gwisg Gymraeg; oddi wrth yr hon ni ŵyr yr Esgyb uchod ddim.

Y mae yn rhyfedd gennyf, a chwithau mor agos i Rye, nad aethoch a'r llyfrau gennych. Nid yw, am a wn i, ddim pellach no chwe milltir o Romney. Mynnwch ryw law sicr i'w cludo oddi yno. Myfi a logaf geffyl, os gwelwch chwi yn dda, i'w nol; ond hi fydd yn dreulfawr; o ran y mae oddi yma yno fwy no thri ugain milltir; ond dewisach gennyf fi golli dau guinea na chlywed colli D. ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi. Ond os cewch chwi rywun a ellir ymddiried iddo, nid rhaid im' fyned i'r draul. Gadewch im' wybod eich meddwl, o herwydd, os dywedwch y gair myfi a af.

Buasai hoff iawn gennyf eich gweled yn Newick. Mi a fum es pymthengnos yn ym- drochi yn y môr yn lle a elwir Seaford, lle yr oeddwn yn cael digon o gimychod am rôt y pwys, a gwely da'r nos a pharlwr gwych y dydd, am chwecheiniog, lle yr oedd ereill yn talu yn Brighthelmstone ddau swllt y nos o leiaf, ac nid oes wybod pa faint am fwyd. Os digwydd i chwi a minnau fod yn y byd yr haf nesaf, o bydd gennych chwant i ymolchi yn y môr, nid oes fodd cael lle mor rhad, na gwlad mor iachus, na chyfle gwell i ymolchi. Chwi a welwch im' ysgrifenu at Robert Thomas yng nghylch yr Almanacau: o gwyddoch chwi pa fodd i'w cludo atoch, ysgrifenwch air at yr hen wr mwyn; bydd dda ganddo glywed oddi wrthych. A dywedwch im' hyn eto: A ydyw iawn i mi ysgrifenu llythyrau fal hyn tan gaead? Os nad ydyw, myfi a beidiaf ar yr amnaid cyntaf.

O bydd gwiw gennych chwi a ellwch gadw y Traethawd yng nghylch yr Esgyb Eingl yn eich meddiant: ond am y llyfrau ereill a'r MSS., y mae arnaf led flys i'w caffael yma. Am y cyfrwy, cedwch ef yna, nes caffoch eich talu am yr arian a roisoch allan o'm plaid i. Llyma'r cyfarwydd i ddanfon y blychau:

To the Revd. Mr. Evan Evans, at Newick, Sussex, to be left at Mr. Burtenshaw, at the King's Head, upon Chailly Common. To be sent to Mr. Thompson, at the White Hart in the Borough, to go by Mr. Rickman the carrier from Lewes. The waggon sets out early on Thursdays."

Ac felly rhaid eu danfon yno y diwrnod o'r blaen. Mynnwch receipt am danynt, a danfonwch i mi, mal y gwnaethoch am fy nillad. Mi a gefais gynnyg ar guradiaeth gan Mr. Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland; ond o ran fy mod yn fodlon i'm lle yma, ni ymadawaf ddim. Myfi a ddeisyfais arno fynnu cennad i mi weled MSS. yr hen larll Macclesfield sydd, meddynt i mi, yng nghadwraeth yr Iarlles weddw ei wraig. Y mae yn dywedyd y gwna ei oreu. Moeswch gael clywed rhywfaint o helynt yr larlles, pa le y mae hi yn byw, a pha le y mae ei llyfrgell ganthi. Y mae yn addo fy nwyn yn gydnabyddus â Syr Watkin Wms. Wynn, who is," (meddai ef) "disposed to give you a very favourable reception."

Mi fyddaf fi yn disgwyl fod y blychau yma cyn pen wythnos. Gadewch im' gael llythyr oddi wrthych chwithau hefyd, mal y gallwyf wybod a ydynt yn dyfod ai peidio, ai pa un y chwennychoch eu cadw yn hwy, ai nad ydych.

Yr eiddoch yn ddiffuant,
EVAN EVANS.

Nodiadau

golygu
  1. Mr. Rhisiart Morys.