Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Cyflog Sal iawn
← Taith yn Sir Aberteifi | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Melldithio'r Saeson → |
CYFLOG SAL IAWN.
ANWYL Gyfaillt,[1]—E ddygwyddawdd im' fyned i Aber Ystwyth ar neges ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, ac yn ebrwydd mi a ddanfonais i'r Post Office i edrych a oedd yno yr un llythyr im'; a mawr oedd fy llawenydd pan welais yr eiddoch o'r degfed o Ionawr: ond dirfawr oedd fy syndod pan ddarllenais ddarfod i chwi ddanfon llythyr arall, ni wŷs pa bryd o'r blaen, ac un arall o eiddo y mwynwr hwnnw a'r anwyl gyfaill, Mr. Llwyd o Gowden, yn ei fol. Diau yw na dderbyniais i mo honynt, ac yr wyf yn bruddaidd iawn o'r achos. Diam- heu mai ei gam lwybreiddio a wnaethoch, ac anghofio ysgrifenu per Montgomery arno. Yr wyf yn cymeryd gofal dichlyn bob wythnos i ddanfon i Aber Ystwyth am lythyrau bob dydd Llun, sef y diwrnod marchnad yno. Felly y mae yn rhaid iddynt fyned i Aber Teifi, neu ryw le anghysbell arall, lle nid oes modd i ddanfon am danynt.
Da chwithau, danfonwch yn ddiatreg at Mr. Llwyd, a dywedwch wrtho y drygddamwain; ac fy mod yn dirfawr ddiolch iddo am ei ewyllys da; ac y buaswn i yn cymeryd y guradiaeth, ac y cymeraf fi hi eto os nad ydyw ry ddiweddar. Nid wyf yn cael oddi wrth y tair Eglwys yr wyf yn eu gwasanaethu yma ond cyflog sal iawn, sef dwy bunt ar hugain yn y flwyddyn; ac oni bai fy mod yn byw gyda'm ceraint, ac yn cael fy mwyd a'm golchiad am ddim, ni buaswn byth byw. Ac am hynny, yr wyf yn llwyr fwriadu ymadaw oddi yma yng nghylch Calan Mai o bellaf. Da chwithau, ymorolwch, chwi ac yntau, am le arall i mi erbyn hynny, os yw hwn yna wedi ei golli. Ni wn i pa beth ar y ddaiar i'w ddywedyd am y rhodd yna drwy lythyr cymun yr ydych yn ei grybwyll am dano. Y mae yn debyg fod amlygrwydd yng nghylch y peth yn y llythyrau a aethant ar ddifancoll. Y mae yr awron yn edrych fal ped fai freuddwyd, a da iawn fyddai ped gwir fai. Da chwithau, gwnewch y goreu a alloch o'm plaid. Ni wn i ddim pa beth arall a ddywedaf, o herwydd fy mod yn llwyr yn y tywyll o blegid y peth. Nes elin nag arddwrn," eb yr hen ddiareb. Chwi a welwch fy mod yn llawn o honof fy hunan a'm pethau, o flaen meddwl na chydgam am neb arall na'u heiddo, ie, fy nghymhwynaswyr pennaf. Dyma ffordd y byd helbulus, trafferthus, gofidus hwn yma. Gwyn ei fyd a fai ddiangol o hono mewn llawenydd byd gwell, lle mae ein hanwyliaid o bryd i bryd yn prysuro o'n blaen; a lle, gobeithio, yr awn ninnau ar fyrder ar eu hol.
Y mae yn y wlad hwn ddwndwr mawr yng nghylch crefydd, megys ped fai'r trigolion amgenach dynion nag mewn mannau ereill; ond o ran eu ffrwythau y maent, y rhan fwyaf, yn diflannu yn fwg, ac y maent, braidd, waeth eu cynheddfau nag ereill; ac yr wyf fi yn ofni, mewn amser, na bydd yma grefydd yn y byd. Ac o daw Biblau Seisnig i'r Eglwysydd, mal y mae'r Esgyb Eingl yn bwriadu, ef a â yr ychydig oleuni sydd gennym yn dywyllwch. Y mae llawer yn Esgobawd Elwy, heb law y gwr a henwasoch, wedi taflu'r Biblau Cymreig allan eisoes, ac y mae yno lawer o Seison cynhenid bob Sul, yn enwedig mewn lle a elwir Aber Hafesb, yn sir Drefaldwyn, lle y mae'r gynhulleidfa i gyd yn Gymry, mal y mynegodd cyfaillt cywraint o'r wlad honno yr haf diweddaf i mi; ac yr oedd y plwyfolion, druain, yn edrych ar hynny megys yn fraint. Dyna falldod Seisnigaidd heb ei elfydd! Beth yw hyn ond dwyn drachefn gaddug pabyddaidd ar y wlad? Duw a edrycho arnom, ac a ddelo â gwell amser!
Mawr ddiolch iwch am y Miltwn Cymreig. Nid da y cydwedda y mydr yna â'n hiaith ni. Y mae mesur y Gododin yn llawer gwell, megys y tystia y llinell hon a llawer ereill ynddo:
Twrf tân a tharan a rhyferthi.
Myfi a fum sal y rhan fwyaf o'm hamser, er pan y'm gwelsoch, o'r cryd, yr hwn a ddychwelodd arnaf chwegwaith weithian: ac am hynny, ni bu dim hoen nac awenydd gennyf mewn llyfrau na dim arall. Gobeithio fy mod wedi ei gorthrechu bellach, ac y bydd tymor y flwyddyn o'm plaid.
Ni chefais mo'm llyfrau eto o Wynedd, er fy mod yn mawr hiraethu am danynt; o herwydd yr oedd dynion y wlad yma yn gofyn pris afresymol am eu nol fyrddydd gauaf, nid llai na thri guinea; ond y maent yn ddigon diogel yno mewn cadwedigaeth cyfaill ffyddlon. Os ymadawaf oddi yma ddechreu'r haf, ni wiw danfon am danynt oll, ond danfon am danynt lle y sefydlwyf. Fy afiechyd a lesteiriodd im' ddanfon at Mr. Richards o Lan Egwad. Y mae gormod o Eglwysydd ar fy llaw, onid e mi a awn ac a aroswn yno dros fis i ddadysgrifenu y pethau mwyaf cywraint.
Da gennyf glywed eich bod ar fedr cymhwyso gwaith eich brodyr i'r wasg. Da iawn y gwnewch er lles eich gwlad a'ch iaith. Am y Bibl Cymraeg â Nodau, y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad ydyw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter Williams; un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith, megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio. Y mae Bugeilgerdd Mr. Richards o Ystrad Meurig wedi ei hanafu gan yr argraffydd, a gresyn oedd, o herwydd gwaith godidog ydyw ar y mydr hwnnw. Ni chefais hamdden eto i orffen Ymddiddan Lucian.
Ertolwg, gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych gyntaf ag y bo modd. Ysgrifenwch hefyd yn ebrwydd at Mr. Llwyd o Gowden, a dywedwch wrtho mal y mae pethau yn sefyll; sef fy anffawd i eisieu ei lythyr a'r eiddo chwithau. Mynegwch iddo na bydd dim llonyddwch i'm meddwl nes clywed oddi wrtho. Yr wyf yn mawr ddiolch iddo ef a chwithau am eich caredigrwydd tuag ataf. Duw a dalo iwch am eich cymwynasgarwch!
Y mae fy chwarter cyntaf yn terfynu y pymthegfed dydd o'r mis hwn. Yr wyf yn bwriadu aros yma un chwarter ychwaneg, i gael ychydig arian i ymdeithio yn fy mhoced; ac onid ef, mi a drown fy nghefn y bore fory. Y mae fy hen gyfeillion ffyddlon gynt gwedi marw yma, bawb o naddynt ; ac am hynny, ni welaf fi ddim gobaith o wellâu fy hunan, ped aroswn yma ddwy flynedd neu dair ychwaneg, ond yn unig colli fy amser gwerth- fawr heb wneuthur fawr o les im' fy hun nac ereill.
Y mae yn bryd weithian tynnu at derfyn; ac am hynny, mi a gymeraf fy nghenad oddi wrthych y tro yma rhag eich goflino.
Yr eiddoch yn garedicaf tra bo,
EVAN EVANS.
YSTRAD MEURIG.
Ysgol Edward Richard yn agosaf atom.
"Myfi a fyfyriais yn ddifesur yn ieuanc yn yr Ystrad draw."
P.S. Direct to me thus:
'To..............at Gynhawdref in Lledrod Parish, near Ffos y Bleiddiaid, Cardiganshire, S. Wales. To be left at the Postoffice, Aberystwyth."
Nodiadau
golygu- ↑ Mr. Rhisiart Morys.