Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Melldithio'r Saeson
← Cyflog Sal iawn | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Curadiaeth Esmwyth → |
MELLDITHIO'R SAESON.
ANWYL Gyfaillt,[1]—E fydd, agatfydd, yn rhyfeddod gennych glywed oddí wrthym o'r man yma. Bydded hyspys iwch, gan hynny, im' ymadaw o'r Pwll Dwr (Appledore), o herwydd nad oes y dydd heddyw, a'r a wn i, y fath giwed uffernol yn trigo ar glawr y ddaiar ag ydynt y bobl sydd yn y Persondy yno. Ac o ran y wlad oddi amgylch, nid Ilawer gwell ei hansawdd, o herwydd y lle mwyaf afiachus ydyw ag sydd yn Lloegr, o herwydd mai darn o Gors Romney ydyw. Am hyn myfi a ymroais i ymadaw â'r fangre felltdigedig, ac a aethum at fy mhatron i roddi'r lle i fyny a hwnnw, yn ddiau, a ymddygodd tuag ataf yn ddigon dreng. Ac fo ddywawd y brithyll yno i mi, iddo beri ysgrifenu atoch, i mi fenthycio ceffyl, ac felly ymadaw â'r wlad. Ac yn ddiau fo daenodd ei ddeiliad y gair ar hyd y wlad, er fod y ceffyl gartref ym mhen ychydig oriau ar ol fy addewid i'r taiog; ond yr oedd ef wedi myned i'w wely, ac ni fynnai mo'm clywed i, er im' alw yn y Persondy cyn deg o'r gloch. Mewn gair, ni welais i ddim mo'r fath fileindra na chieidd-dra mewn un man erioed. Ond bendigaid fo Ei enw, y mae Duw yn cadw'r gwirion ym mhob man.
Gwedi ymadaw, yr oedd yr arian gwedi darfod gennyf. Yn y cyfyngdra hyn, e ddigwyddodd im' glywed fod Cymro yn gurad yn y gymydogaeth; ac at hwnnw yr aethum yn ddigon prudd fy nghalon, gan adrodd fy nghwyn, fal ag yr oedd pob peth; ac yno yr arosais bedwar diwrnod, â chroesaw mawr iawn. Enw y lle Headcorn; enw y Cymro cymwynasgar, David Evans, o swydd Gaer Fyrddin. Y gwrda hwn a'm cynghorodd i fyned yn ddiatreg â llythyr oddi wrtho ef at un Mr. Williams, o Hayton, yn agos i Lewes, yr hwn a allai fy nghyfarwyddo i gael curadiaeth. Ac felly myfi a gychwynais i'r daith, ac a ddaethum i nol crys neu ddau ac hosanau, i Appledore. Am y god groen, e orfu arnaf ei gadaw yno, à llawer o ryw ddillatach ynddi. Myfi a gyfeiriais tua Rye, i edrych a oedd y boxes wedi dyfod yno, fel yr oeddwn wedi ysgrifenu atoch gyda Mr. Wiliam Stock oddi yno. Myfi a ddeisyfais ar Mr. Troughton ysgrifenu atoch am eu cadw yna nes y caech glywed oddi wrthym drachefn. Myfi a ddeisyfais arno hefyd wrthwynebu y chwedl dybryd celwyddog yng nghylch y ceffyl. Gobeithio i'r llythyr hwnnw ddyfod i'ch llaw mewn iawn bryd ac amser; ac fod y boxes yna eto. Y mae arnaf fi eiseu fy nillad yn angerddol; o herwydd, i Dduw mawr y bo'r diolch, llyma fi unwaith eto gwedi cael curadiaeth esmwyth mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn rhadlon, yn Sussecs, o fewn wyth milltir i Lewes, ac o fewn tair a deugain i Lundain, ac, meddynt wrthym i yma, o fewn deuddeg at fy nghyfaillt caredig Mr. William Llwyd o Gowden. Y mae llawer iawn o Gymry yn guradiaid yn y wlad yma, a rhai henafwyr yn perchenogi personoliaethau da. Y mae yn ddrwg gan fy nghalon i Mr. William Llwyd a chwithau a Mr. Troughton gymeryd cymaint o boen i'm dwyn i'r fath anfad le, ac at y fath Pharisead anhrugarog â'r Bicar yno. Ni arosodd yno un curad sefydledig er ys mwy nog ugain mlwydd. Yr oedd ef yn newid ei gurad agos bob blwyddyn, a'r cyfryw ag a arosynt yno a oeddynt yn cael eu traflyncu gan ei ddeiliad yno gan beri iddynt dalu yn afresymol am eu golchiad, ac am drin bwyd iddynt. Mewn gair, y mae y cyfryw ogan i bob un o'r ddau, ag i'm cyfaill David Evans ddywedyd wrthyf, na ellid fy nanfon i waeth lle ond at y diefyl i annwn.
Wele, llyna i chwi hanes y twrstan o'r twrstaneiddiaf. Yr oeddwn yn bwriadu yr wythnos yma ymweled â Mr. Llwyd, ond y mae'r hin mor dymhestlog, na fedraf ddangos fy mhig allan. Ond gobeithio yr hinona hi yr wythnos nesaf, ac yno, a Duw yn y blaen, myfi a âf i ymweled âg ef; o herwydd fod arnaf eisiau fy nillad a'r hen bregethau Seisneg yna. Byddwch mor fwyn a'u danfon hwynt wedi eu llwybreiddio yn y modd hyn ataf:
"For the Revd. Mr. Baynes, at Newick in Sussex—to be sent to Catherine Wheel in the Borough, to go by Mr. Hall and Nutty the Carrier. N.B. The waggon sets out on Tuesday morning only, about eleven o'clock." Er mwyn Duw, gadewch im' glywed oddi wrthych yn ddiatreg. Y mae'r post yn dyfod yma bob dydd o'r wythnos ond dydd Llun o Lundain. Llwybreiddiwch eich llythyr yn y modd yma:
"To the Revd. Mr. Evans, at Newick in Sussex, by the East Grinstead bag."
Na ddeliwch ddim sylw ar yr hyn a ddamweiniodd yng Nghaint, ac na choffewch enw neb, ond yn gyffredinol, fod yn ddrwg gennych i mi gael fy nanfon i'r cyfryw le afiachus nad wyddoch chwi na Mr. Llwyd ddim oddi wrtho, ond a oeddid yn ysgrifenu atoch. Ysgrifenwch ataf yn Seisoneg, yn y cyfryw wedd ag y gallwyf ei ddangos i Mr. Baynes. Myfi a anghofiais ddwyn gennyf bapurau y testimonial o'r wlad; ac am hynny fo fydd yn rhywfaint o fodlondeb ganddo glywed y gair goreu. Pa beth bynnag yr wyf yn ei haeddu, i. Dduw mawr y bo'r diolch, yr wyf yn gywir ac yn onest; a'r bai mwyaf sydd arnaf, a bai ac anaf erchyll ydyw, yfed gormodedd. Ond y mae yn fy mryd, trwy ras Duw, dorri y ddrwg arfer hon yn llwyr; ac yno, mefl i Suddas a'i weision!
Myfi a anghofiais, braidd, ddywedyd wrthych orfod arnaf adaw Lewis Glyn Cothi a Dafydd ap Gwilym yn Rye. Gan na wn i pa bryd y gallaf ymdeithio mor belled, o herwydd y mae dros ddeugain milltir o ffordd oddi yma, ac o herwydd na wyddwn pa beth i'w wneuthur yn y cyfryw gyfyngdra, myfi a huriais lanc er swllt yn Appledore i'w dwyn hyd yn Rye, lle y maent yn ddiogel yng nghadwedigaeth Cymro yno. Myfi a roddais orchymyn iddo eu danfon naill ai i mi neu chwi, fel y byddai mwyaf cyfaddas. Myfi a roddais iddo gyfarwyddyd pa fodd i'w danfon atoch, ond i chwi ddanfon llinell neu ddwy ato ar y perwyl hwnnw. Y modd y danfonwch ato sydd fal y canlyn:
"TO Mr. William Prosser, Saddler, in the Market Street, Rye, Sussex."
Myfi a berais iddo gymeryd gofal am y boxes mau, o delynt yno. Gobeithio nad aethant, o herwydd nid oes modd ar y ddaiar i'w cludo yma. Ac felly os aethant, y mae yn rhaid eu cael yn ol mor ebrwydd ag y bo modd, a'u danfon yma.
Chwi a welwch gymaint o flinderau a barasant yr Esgyb Eingl im' trwy beri im' ymadaw â'm gwlad. Mi a chwenychwn, pan gaffoch odfa, gaffael hir llythyr oddi wrthych, a pha beth yw eich tyb chwi yng nghylch y traethawd a ysgrifenais i yn ei gylch. Nid wyf yr awron yn disgwyl ond by: lythyr Seisoneg oddi wrthych, o herwydd yr wyf ar bigau drain o eisieu fy nillad a'r hen bregethau Seisnig. Am fy llyfrau, nid oes arnaf frys yn y byd am danynt. Gadewch im' glywed oudi wrthych gynted ag y bo modd.
Yr eiddoch yn ffyddlon hyd y ffun ddiweddaf,
EVAN EVANS.
Nodiadau
golygu- ↑ Mr. Rhisiart Morys.