Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Cywydd i groesawu genedigaeth Tywysog Cymru
← Awen y Bardd Hir | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Wedi Meddwi a Sobri → |
CYWYDD I GROESAWU GENEDIGAETH TYWYSOG CYMRU.[1]
Y RYWIOG gerddgar Awen,
Berw-ddawn hardd y beirddion hen,
Chwareu gainc a chywir gân
O brydyddiaeth brau diddan;
Taro â dwylo'r delyn
Yn glau, dadseinied pob glyn;
Pair i holl Gymru ruo
Y braint a gafodd ein bro,
Eni iddi hi a'i hiaith
Bor teilwng biau'r talaith.
Maban a haeddai glân glod,
A henyw o waed hynod;
Mab Sior, brenin goror gain,
Paradwys, Ynys Prydain;
A'i gynnes frenines hoew,
Siarlot â'r fynwes eur-loew.
Milwr fydd essillydd Sior
I ymwan mewn hawddamor;
Ar Ffranc y gwna ddifancoll,
Dydd a ddaw, a diwedd oll.
MIN AFON ELWY.
Ger Llanfair Talhaearn, lle y canodd Ieuan lawer.
Croeso, Dywysog grasawl!
Dy feirdd a ganant dy fawl;
Dy nerth yn destun a wnant,
Dy glod dros fyd a gludant.
Mae Cymru 'n gwenu ar g'oedd,
Yn llawen, a'i holl luoedd,
Gael iddi amgeleddwr,
A theg amddiffyn, a thŵr.
Y beirdd fil, o beraidd fant,
I'th gynnyrch fyth a ganant;
Pob telynior, cerddor coeth,
A boen ci fysedd beunoeth,
Wrth ddadgan, hoian yw'r hawl,
Ei gerdd it', D'wysog urddawl.
Pob dadgeiniad gwlad mewn gwledd
A gân yn Ne a Gwynedd,
Mewn maswedd a chyfeddach,
A hoen a wna hen yn iach!
A llon a fydd pob bron brudd,
A gosteg ddaw ar gystudd;
A'r deyrnas oll a'r drwn sydd
Yn llawn o bob llawenydd.
Gwledda maent arglwyddi mawr,
Damwain y cyfryw dymawr;
Groeso i hwn mewn gras a hedd
Arbennig a ry'r bonedd:
Mae pob gradd yn cyfaddef
Y da a wnaeth Duw Ion nef,
Rhoddi mab o wreiddiau Mon
I'r gwr a biau'r goron;
Etifedd (da fo'r tyfiad)
Por dewr i ddirprwyo 'i dad.
Deued ein ner diwyd ni
Un rinwedd a'i rieni;
A chalon ddiocheliad
A chwydd pan gyffwrdd â châd;
Ail Arthur waew dur dorri,
Ddyledawg, ruddfawg ri,
Y gwawr wrth Faddon fawr fu
Ym mynydd yn ymwanu;
Pan fu dial ar alon,
A Sais yn isel ei son.
Cynnydd, Dywysog ceinwych,
A dedwydd beunydd y bych;
Mewn campau a doniau da
I anrhydedd iawn rhodia.
Hyfforddiad dy dad odiaeth
A'th fam (godidog yw'th faeth!)
A'th arwain, fy nghoeth eryr,
Mewn bri i ragori gwŷr.
Pan el Sior, ein hior, mewn hedd,
Wiw deyrn, yn y diwedd,
Ar ddir hynt o'r ddaiar hon
I gyrraedd nefol goron,
Aed y mab ffynadwy mawr
I Brydain yn Briodawr.
Nodiadau
golygu- ↑ Wedyn Sior IV. Ganwyd ef Awst 12, 1762.