Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Awen y Bardd Hir

Dewi Fardd o Drefriw Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd i groesawu genedigaeth Tywysog Cymru

AWEN IEUAN.

Llanfair Talhaiarn, Medi 4, 1762.

Anwyl Gyfaill.[1]—Cefais eich llythyr ddydd Sul diwethaf, a dyma finnau yn danfon ateb iddo cyn diwedd yr wythnos, ac eilun o gywydd i'w ganlyn. Diau yw nad oes gennyf flas nac awch yn y byd i ganu; ond, i ufuddhau i'r Llywydd, mi frasneddais rywbeth, herwydd fy mod yn rhwymedig iddo. Dywedwch wrtho fod yr Awen gennyf ar drengu, ac nad oes yng ngallu physigwriaeth ei hadfywio. Ac, mal y mae'r byd yn myned yr awron, ni waeth fod gan ddyn wilog arall na hithau. Yr oedd, gwir yw, yn llances landeg bropr pan y cefais i hi gyntaf; ond beth a dâl hynny? Yr oedd ei chynhysgaeth i gyd am dani, ac ni feddai geiniog yn ei phwrs. Nid oedd neb o'r gwŷr mawr yn ei pherchi, a braidd nad oeddwn fy hun yn cael anair o'i phlegid; ac am hynny mi ddywedaf am dani yn lle marwnad, fal y dywed Dryden:

"Here lies Awen, here let her lie;
She is at rest, and so am I."

EVAN EVANS


Nodiadau

golygu
  1. Mr. William Morris.