Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Dewi Fardd o Drefriw
← Marwnad William Wynn | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Awen y Bardd Hir → |
D. Jones o Drefriw
DEWI FARDD.
Anwyl Gyfaill,[1]— Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es yng lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd, ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dyfod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, o herwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifennu atoch. Pur helbulus yw Dewi, druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisieu modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifennu atoch, ac nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w wneuthur.
Myfi a fum yng Ngloddaith, ac a welais y llyfrgrawn yno. Y mae yno lawer iawn o waith y beirdd diweddar, ond ychydig o waith y cynfeirdd. Y pethau mwyaf hynod oedd dau gopi o Frut y Breninoedd wedi eu hysgrifennu ar femrwn es pedwar cant o flynyddoedd o leiaf. Fo fu Syr Roesser mor fwyn a rhoi im' fenthyg y ddau uchod, ac y mae gennyf un arall gorhenaidd a fenthyciais o Lannerch. Y mae i'm bryd, os Duw a rydd im' iechyd (o herwydd afiachus iawn a fum y gauaf hwn) ddadysgrifennu un o naddynt; a diau yw, pei cawswn well iechyd, y buaswn fwy bywiog yng nghylch gorffenu y Traethawd Lladin yng nghylch y Beirdd, ac ereill weithiau yr wyf wedi cynhullaw defnyddiau atynt. Ond y mae dolur anfad yn fy mhen yn fy llwyr ddihoeni, ac yn fy ngwneuthur yn gwbl anaddas i gymeryd y fath orchwyl yn Ilaw. Gobeithio nad ydych ddig wrthyf am beidio o honof ddanfon iwch y Traethawd uchod fal yr oeddwn yn arfaethu, o herwydd yr wyf yn gwybod ac yn gweled ei fod yn ammherffaith. Mi a allaf, wrth aros a chymeryd amynedd, daro wrth ddefnyddiau i'w orphen; ac os gwnaf, fo gaiff weled goleuni; ac onid e, fo gaiff fyned i dir anghof, lle y mae pob peth tan haul yn myned.
Mi a darewais yn ddiweddar wrth ddarn o waith Sion Dafydd Rhys, y Gramadegydd, yn ei law ei hun. Ateb ydyw i ragymadrodd Kyffin, a drodd lyfr Esgob Juell yn erbyn y Pabyddion o Ladin i Gymraeg, yn yr hwn ragymadrodd y mae Kyffin yn goganu'r iaith Gymraeg a'i haddysg a'i beirdd ond gwych yw gweled yr hen gorff yn cymeryd y pastwn yn llaw, ac yn ei gystwyo mal ag y dylai. Gresyn ei fod yn ammherffaith, sef heb y dechreuad. Y copi cyntaf a ysgrifennodd ydyw, ac y mae wedi ei interlinio, a llawer gwedi ei groesi allan a'i newid, a darnau o bapurau wedi eu pinio wrth gorff y dalennau yma ac acw. Y mae i'm bryd ddadysgrifennu hwn hefyd.
Nid oes gennyf ddim rhyfedd arall i'w ysgrifennu atoch; ac yn wir, pe cawswn iechyd, myfi a fuaswn yn cadw close correspondence â chwi a'ch brodyr; ond o herwydd fy mod, gobeithio er daioni im', yn cael fy nghospi yn y byd hwn, ni allaf gyrraedd cymaint o dded- wyddwch a diddanwch ag a ellych chwi a'ch llythyrau roddi im'. Ond y mae yn rhaid imi foddloni fal ag yr wyf, ac addef gyda'r bardd mai
Ewyllys Duw yw lles dyn.
Ond rhag ofn i chwi debygu i mi anghofio mai ysgrifennu llythyr ac nid pregeth yr oeddwn, mi a derfynaf, ac a'ch gorchymynaf i nawdd y Goruchaf.
Yr eiddoch yn garedig,
EVAN EVANS.
Nodiadau
golygu- ↑ Rhisiart Morys.