Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Hiraeth y Bardd am ei Wlad
← O Ddyfroedd Moroedd Mawrion | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad y Telynor → |
TEIFI RHWNG YSTRAD FFLUR A THREGARON
"O. Gymru lan ei gwaneg.
Hyfryd yw oll, hoew-fro deg!"
HIRAETH Y BARDD AM EI WLAD.
GWAMAL a fum heb gymar,
O ddechreu f'oes, ddu chwerw fâr;
Anwadal y newidiais
Gwlad fy maeth, fu glyd i'm ais;
Daethum i fro nid ethol
Y Sais, lle ffynnais yn ffol,
Ar newidiad, treigliad trist,
At ddynion uthron athrist;
Lle mae aml carl llymliw cas,
Carthglyd, lleuoglyd, llyglas;
A morwynion mor anwar,
Meddwon, cigyddion a'u câr.
Dyn ieuanc wyf dan awyr,
At Sais trafaeliais trwy fŷr,
I dir Cent, i awyr cas
Seisoniaid, diafliaid diflas.
Llwyr wae ddyn llariaidd enaid
A wertho wir dir ei daid,
I fyned, dynged anghall,
I fwrw ei oes i fro all:
Gwell yw byw a gallu bod
Dan wybr ein cydnabod,
Na gwag gerdded, o'm credir,
O nwyd taith, i newid tir:
Newid oedd annedwyddach
Na bro a oedd yn bur iach.
Newidiais, ar wan adeg,
Wlad lawn Geredigiawn deg;
Lle mae iechyd byd yn byw,
Diboen a gorhoen gwiw-ryw;
Gwlad Ddafydd (ganiedydd gwych)
Gwilym, hardd-wiw ei gwelych;
Lle mae dynion glewion glwys
Gwiwglod mewn gwlad ac eglwys;
A mwyn feinwar i'w harail,
Diniwed iawn dan y dail.
Anhebyg yn Neheubarth
Y fun wen ni fynnai warth,
I Seisnes, ddewines ddu,
O waed Lloegr wedi'i llygru.
Och im', fy ngwlad, dy adaw,
A fioi a throi yma a thraw!
Gwell oedd im' golli o dda
Damwain y bywyd yma,
Na myned at wŷr llediaith,
Lle nid yw llawen y daith.
O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoew-fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwel,
Ac iachus yw ac uchel;
A'i pherthi yn llawn gwiail,
A gweunydd a dolydd dail;
Lle mae aml pant, mwyniant mau,
A glynnoedd a golannau;
Mynyddoedd a mwyneidd-weilch,
Fal mynnau uwch bannau beilch';
A'i dwr gloew fal dur y glaif,
O dywarchen y dyrchaif;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raian ro,
A redant mewn ffloew rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau.
Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loewaf afon,
Fal Dafydd y sydd yn son;
A'i wiw enwog awenydd
Fal di rhed filod yr hydd.
Gwyn fyd na fai gennyf fi
Awen Dafydd lan Deifi.
Molwn, eurwn wiw oror
Dy lyn, mwy na deu-lanw môr;
Cyff'lybwn, dyfalwn faint
A fwri o lifeiriant;
Dy locwder a bryderwn,
Dy ddyfnder, iselder swn;
Y mau ganiadau hoewdeg,
Fal di, afon Deifi deg,
Yn ddi-draul tra fal haul haf,
A beraint fyth yn buraf.
Gwae fi! nid oes gyfnod iach
Y lle'r wyf yn llwyr afiach,
Yn nhir Sais anrasusawl,
A geneu mwyn ganu mawl:
Gwae fardd! ni chwardd yma chwaith,
Ni lonna ei ael unwaith,
Wrth weled, heb ged, heb går,
Taiogion anlletygar,
Caetherog annhrugarog iawn,
Chwerw olwg ynt, a chreulawn;
Nid oes na moes yn eu mysg,
Wag eddyl, na gwiw addysg.
Cymro, oni bryno'n brid,
Ni wyr ef unrhyw ofid;
A gwir yw nas gŵyr y iach
Y gofid a gai afiach:
Felly finnau yn ieuanc,
Heb brofi'r byd, laes-bryd lanc,
O'm gwlad deg, fal lledfegyn,
At Sais ymdeithiais yn dynn.
Gofid yw im' gofio dydd
Y newidiad annedwydd;
Ac o achos fy nhrosi
Cul wyf o wr, coelia fi.
Os i dir Cymru gu gain
Dof eilwaith o'r wlad filain,
Iechyd a gaf a chadw gwyl
Yn glyd iawn i'n gwlad anwyl;
Lle gwelaf aml llu gwiwlan,
Llawn godwrf a chwrf a chân,
A thelyn o waith hoew-liw,
A chantorion gwychion gwiw;
A llaes wên, a llawenydd,
A chanu, difyrru dydd;
A lle gwelir gan hir-fardd
Dlos feinwen, hoew gangen hardd
Yr hon, eiliw hinon haf,
A'i gwiw-rudd teg a garaf;
Hithau a'm câr (feinwar fun)
Innau eilwaith, wen wiw-lun;
Ac yno'm mysg gwin a medd,
Lloegr daiog a'i llwgr duedd
A anghofiaf, dygnaf dir,
A'i dynion o waed anwir;
A rhoddaf, fal yr haeddent,
Wfft i Seison caethion Cent.