Gwaith Ieuan Brydydd Hir/O Ddyfroedd Moroedd Mawrion
← Llys Ifor Hael | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hiraeth y Bardd am ei Wlad → |
O DDYFROEDD MOROEDD MAWRION.
DDYFROEDD moroedd mawrion—y daethum,
O deithiau mawr cigion,
O greigiau dyfnderau'r donn,
I'r lan, er taer elynion.
Drwy Ner, o'i fwynder, myfi—ag einioes
O ganol trueni,
O safn y bedd, ryfedd Ri,
Ei fawredd wy'n glodfori.
Y Diawl uffernawl ffyrnig—ei ruad,
Er awydd adwythig,
Ni all ddwyn, yn ei holl ddig,
Yn ei eneu un oenig.
Duw Waredwr, Tŵr tirion,—Duw cadarn
Ydyw Ceidwad gwirion;
Ni all diawliaid, lle delon',
Niwaid na brath dan eu bron.
Os Moesen lawen, a'i lu,—yn gynnes
A ganodd fawl Iesu;
Canaf fawl, rhyfeddawl fu
Ei rad yn fy ngwaredu.
Cenwch fawl, nefawl nifer,—angylion
Yng ngoleu'r uchelder;
Gwynion delynorion Ner,
Fil filoedd, ei fawl foler.