Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Robert Davies y Llannerch

Wedi Meddwi a Sobri Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwnad William Morus

ROBERT DAVIES, Y LLANNERCH.

Llanvair Talhaiarn, Tach. 26, 1763.

Anwyl Gyfaill.[1] Llyma fi o'r diwedd gwedi derbyn clamp o lythyr oddiwrth yr Ygnad Barrington. Y mae wedi cytuno drosof ag un Mr. Dodsley, o Pall Mall, yng nghylch argraffu fy llyfr, ac fo addawodd fynnu iddo wŷr i ddiwallu'r wasg yn y Lladin, y Seisoneg, a'r Cymraeg; o herwyda hynny yr wyf yn hyderu yn fawr arnoch chwi yn y gwaith o ran y Gymraeg. Os daw allan yn ddiwall oddi wrth y cyssodyddion, e fydd (a Duw yn y blaen) yn beth clod i'n gwlad a'n hiaith. E ddeisy fodd yr Ygnad ysgrifenu o honof atoch yn y perwyl yma allan o law. Mi a dderbyn- iais ei lythyr o'r 23 o'r mis hwn heddyw. Y mae yn meddwl yr a'r llyfr i'r wasg allan o law. Gadewch im', da chwithau, gael clywed mor fynych ag y bo modd yng nghylch ei helynt. Y mae gennych chwi Hirlas Owain, yr hwn yr wyf yn deisyf arnoch ei draddodi i Mr. Dodsley mor gynted ag y galloch.

Myfi a gefais golled afrifed yn ddiweddar am Mr. Davies o Lannerch. Dyma i chwi ei farwnad. Os yw Llangwm am brintio ei ail lyfr, dodwch hi iddo. Mi a roddais y cwbl a feddwn mewn Barddas o'm gwaith fy hun iddo, yn ol eich arch, pan oedd yn myned â'i Ddiddanwch o gylch.

Yr eiddoch yn ddiffuant,

EVAN EVANS.

CYWYDD MARWNAD

Yr urddasol Bendefig, Robert Davies, Yswain, Llannerch, yn Sir Fflint.

Κλαίωμεν, ὃ γὰρ γέρας ἐστὶ θανόντων.[2]
HOMER, I. xxiii. 9.

AM wr a aeth, mae oer wedd
A mawr gwyn yn mro Gwynedd,
A galar prudd ac wylo,
Wrth weled trymed fu'r tro:
Nid oes grudd na chystuddiwyd,
Mor arw yw'r gloes ym mro Glwyd;
Torwyd ac anafwyd ni,
Gwae ein gwlad gan galedi.
Marw Robert (mawr yw'r ebwch)
Dafis, llyna'r trym-gis trwch,
Mae o'r herwydd mawr hiraeth,
Merwindod, y sigdod saeth;
Ac anferth yw y cwynfan
Am wr glwys a Chymro glân.
Od aeth Llannerch heb berchen,
Gwae ei bod yn wag o ben!
Collodd frig Pendefigion,
Neuadd hael yr annedd hon;
Pan aeth (ffoedigaeth ffawd)
Yn hesp hon o'i hosp hynawd.
Y locw afon, wrth lifo,
A wnaeth yn fras ein noeth fro;
I'n hoes ni fu loes mor flin,
Gau ei ffrwd fawr gyffredin.

Tlodion deu-cant o wledydd
A gyrchai i'w dai bob dydd;
Uchel y maent yn ochain,
A'u cur a rwyg y mur main!


Angeu a wnaeth ing in' oll
O'i gyrchu, a gwaew archoll;
Dwyn hael, a gadael y gwan
I'w orweddfa i riddfan;
Bei dug, buasai byd iawn,
Ddeg i'w bedd o gybyddiawn;
A gadael un hael o'n hoes
Yn ddi ing i fyw ddeng-oes.
Mae rhai'n, rif y brain, i'n bro,
Och anwyr, yn iach heno!
Rhai ar led yn rhoi ar log,
Er ennill, wŷr arianog;
Cael ceiniog yn llog i'r llall;
Pentyru can-punt arall;
Ac ereill heb seguryd,
Crinaf wŷr, yn cronni yd;
Llorio er ennill arian,
Drud werthu, gwasgu dyn gwan;
Prynu, a gwenu i gael gwall,
Tiroedd à deu-cant arall;
Cael gwynfyd y byd o'i ben,
Tewychu cant o ychen.
Pob cybydd y sydd o son
I'w nodi yma'n cidion:
Eidion erioed yn ei ryw,
Ac eidion gorwag ydyw.
Och, fyned o'i wych faenol
Y gwr a aeth; gwae ar ei ol!
Goreu un gwr a aned,
Rhwydd i gant y rhoddai ged:
Gwedi hael ni cheir mael mwy
I dlawd a fo dyladwy.
Sylltau, coronau cryniawn
A gai wŷr angenog iawn:

Ceiniogau, dimeiau mân,
Yn eu taith, a gânt weithian.

Od aeth gwr odiaeth gariad,
A wnai wiw les yn ei wlad,
Rhad dyfo i'r etifedd,
I roi'n ei ol yr un wedd;
A Duw mawr, Blaenawr ei blaid,
A ranno nef i'r enaid!
Dyna fan diau na fydd,
Ni wiw gobaith, i gybydd.


Nodiadau

golygu
  1. Mr. Rhisiart Morys.
  2. Yr ydym yn wylo, canys y mae yr hen ŵr yn mysg y meirw.