Gwaith Iolo Goch/Edwart III, Brenin Lloegr
← Marwnad Tudur Fychan | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Gwyddelyn → |
XXX. EDWART III, BRENIN LLOEGR.
EDWART AB EDWART, gwart gwyr,
Ab Edwart, anian Bedwyr,—
Edwart, wyr Edwart ydwyd,
Edwart Trydydd, llewpart llwyd.
Gwisgaist aurgrest yr aer,
Crest gwedi cwncwest can-caer;
Ar awr dda arwraidd wr,
Aur gwnsallt, eryr Gwynsor.
I'th annedd, a'th ddaioni,
Na fetho teyrn fyth i ti.
Cael a wnaethost, post peis-dew,
Galon a llaw-fron y llew;
Baedd y cyfnewid didwyll,
A phen, a synwyr, a phwyll;
A ffriw lygliw olwg-loew,
A phryd dawn a phriod hoew;
A phob iaith, cyd ymdaith cadr,
Engylaidd wyd, fy ngwaladr.
Cefaist gost, cefaist gysteg,
Yn nechreu d'oes, iawn ochr deg,
Yn gostwng pobl anystwyth
Lloegr, a Ffrainc, lle goreu ffrwyth.
Caf cyfedliw heddyw hyn,
Bob ail brwydr gan bobl Brydyn;
Difa'i llu, lle bu'r baich,
Dal brenin, dileu Brynaich;
Dolurio rhai, dal ereill,
Llusgo'r ieirll oll, llosgi'r lleill.
Curaist å blif ddylif ddelw,
Cerrig Caer Ferwig, cur ferw.
Rhoist ar gythlwng, rhwystr gwythlawn,
Ar For Udd, aerfa fawr iawn.
Gelyn fuost í Galais,
O gael y dref goleu drais;
Grasus dy hynt i'r Gresi,
Gras teg a rydd Grist i ti.
Llithiodd dy fyddin lin lem,
Frain byw ar frenin Böem;
Perigl fu i byrth Paris,
Trwst y gad, lle trewaist gis.
Ehedaíst, mor hy ydwyt,
Hyd y nef, ehedyn wyt;
Weithian ni'th ddynoethir,
Ni thyn dyn derfyn dy dir;
Cymod a'th Dduw, nid cam-oes,
Cymer yn dy gryfder groes.
Od ai i Roeg-mae darogan,
Darw glew, y ceffi dir glân;
A'r Iddew dref, arw ddi-drist,
A theimlo y grog a theml Grist;
A goresgyn ar grwysgaeth,
Gaerusalem, Fethlem faeth;
Tarw gwych, ceffi'r tir a'r gwyr,
Tor fanwaith tai'r Rhufeinwyr;
Cyrch hyd ym min Constinobl,
Cer bron Caer Bablon cur bobl,
Cyn dy farw y cai arwain,
Y tair coron cywrain cain,
A ddygwyd gynt ar hynt rhwydd
Ar deirgwlad, er Duw Arglwydd.
Tirionrwydd a'r tair anhreg,
A'th wedd, frenin teyrnedd teg;
Teilwng rhwng y taír talaith,
Frenin Cwlen fawr-wen faith.
I wen-wlad Nef, ef a fedd,
Y doi yno'n y diwedd.