Gwaith Iolo Goch/Herdsin Hogl
← Gwyddelyn | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Marwnad Ithel Ddu → |
XXXII. HERDSIN HOGL.[1]
ITHEL DDU i'th alw yddwyf,
Athrodwr beirdd, uthr ydwyf.
Athro'r gerdd i'th roir ar gant,
Etholwalch beirdd i'th alwant.
A thra da wyd, ni thry dyn,
A theuluwr iaith Leyn.
Erchaist i fardd orchest fawr,
Arch afraid cyn eiry Chwefrawr,
Goffhau giau ffiaidd
Gychwraig ddaneddwraig haidd—
Herstin Hogl a'r arogl oer,
Henllodr figyn-bodr garn-boer.
Mae'n i hun, nid mwyn i haint,
Du daerwrach dew i derwraint;
Mahelldyn, gefryn heb gig,
Main groen neidr, min grynedeg.
Merch rwsel hen sorel soeg,
Gwrach fresychgach frau sechgoeg
Rhaid i'n hyn gadw had,
I furnio iddi farwnad.
Paham, Ithel, ddinam Ddu,
O ba raid iddi brydu?
Fy enaid, im na ddanfonud,
Fesur i throed, fos rhwth ddrud;
Tra fae'r esgyrn, cyrn carn ffoll,
A giau du i gyd oll.
Nid hawdd cael gwawd barawd bur,
Yn absen gwilff wynebsur.
Gwnawn yn hoff i dydd coffa,
Pes gwelswn a phwn o ffa.
Minnau y sydd, mein was wyf,
Moli gellast fel y gallwyf.
Gwedi naddu gwadu iddi,
Enw heb senw yw i henw hi;
Pader i hon, pwy ydoedd?
Poed ar awr dda, prydu 'ddoedd,
I grybwyll Hers gefn gribin,
Grepach hogl-grach a'r hegl grin;
Henddyn fam Wyddelyn wefr,
Hers tinroth haer estynrefr;
Haeru maent i bod hirhynt,
Yn oes hen Geridwen gynt,
Rhefr grach, gwedi rhifai'r grib,
Hefys hydraeth bys droeth-bib,
Rhyswraig gynhaig, gwn i hanc,
Rhyswyn fawdgrin fwyd-granc;
Blif annigrif eneu-grest,
Blawta, gwlana, gwera gwest,
Cawsa, cica, myn coceth,
Casa pwnc, ceisio pob peth.
Llawer cydaid hen wenith,
Llawer baich ar i braich brith,
Llawer dryll cig selsig sail,
A chosyn dan i chesail.
Llawer gwaell, lliwir i'w gwedd.
A dynnai hi â'i dannedd;
Gwae'r mab gwedi gwyro'r min,
A golles diefiles diflin;
Nos y rhwymwyd dorglwyd don
A'i deufraich ar i dwyfron
Y bu'r wrach mewn berwa wrysg,
A ffloc aml a phlwy cymysg;
Yng nghwrr bwth anghywir baw,
A'i gwaling yn i gwyliaw.
Rhoed ysgrin ar hyd y scrwd,
Rhyll gyrchgas rhwyll gywarchgwd,
A rhwyd fawr ar hyd i fam,
Rhyw drasgl fynwes gasgl goesgam,
Rhag gweled rhwysg i gwylhers,
A chanu had uwch na'i hers.
Buwch ffol, ni bu uwch i phen,
O ffurf gael un offeren,
Nag offrwm, widdom geuffrom,
Na rhan, na lluman wyll lom,
Odid o chlywid â chlust
Uthr i thry, ffel a'i throed-ffust,
Alw yng Ngwynedd long anhoff,
Gyfryw glul ar ol gafr gloff;
I gwlan, a'i chwpan a'i chap,
A'i deuglaf yn rhoi dwyglap;
Rhannodd i blawd a'i rhynion,
I glêr, a'i phiner, a'i ffon;
A'i chynfas, a'i chrys bras brau,
A'i chae latwm, a'i chlytiau;
A'i chynog llaeth a'i chwynogl,
A'i chwd, Hersdin hwgwd hog!;
O'i blaen y bu oleuni,
Yn un wers wrth i hers hi;
A gweddio gwiw ddwyen,
Gyda hi, safn geudy hen;
Gwain gweirfforch, gwaneg orffwyr,
Gwae ni i marw hi mor hwyr.
Nodiadau
golygu- ↑ Herstin (pen ôl), fel sydd yng nghorff y gerdd, sy'n gywir