Gwaith Iolo Goch/I Ithel ap Rhotpert i ofyn March

Marwnad Llywelyn Goch Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Owen Glyn Dwr

XLII. I ITHEL AP RHODPERT O GOED
Y MYNYDD I OFYN MARCH.

Pwy i'n mysg yn pen masnach,
A fyn a rhoi Duw ym farch?
O ganmol gwerth ugain-more,
Am un march a mwy na more;
Elw mawr cael eilíaw mawl,
Er gorwydd y rhagorawl;
Nid tra ariannawg ond rhai,
Dyn mwyn, mi myn, dwyn mwnai;
Dyn arall, myn dwyn arian,—
Dwyn i glod a fyn dyn glân;
Yn i dalm a wnai delyn,
O flaen dawns, ni flina dyn;
Felly y gwna, ci da diorn,
Llafar y cais llef y corn;
Hwy y pery na haearn,
Gwawd na march, a gwydn yw 'marn;
Ni ddiffyg gwawd tafawd da,
Ni lwgr ar ddwr ni lwyga;
Na llym-goes, ni all angerdd,
Rhuthr o'r gysp, ddieithro'r gerdd;
Ni affwsloner, ni ffawr soeg,
Fal ceffyl trwyngul tremgoeg;
Ni wasg hefyd ysgyfaint,
Ag ni fag ynddi haint;
Pregeth am hurbeth yw hon,
Marw o'r gysp mawr argospion;
Talai im ddoe talm o dda,"
Heno yn farw fal hen furia;
Gwyliwch lle mae y gelain,
Ar lethr y bryn, i lithio'r brain;
Dir cyn dwyn da o'r coed,
Rhoi ergyd cais i'r Argoed.
Rhyngof uniawn gôf angerdd,

A choed, a mynydd, a cherdd.
Gyrthied côf-eurged fawr-goeth,
Ym mhen y dewin-bren doeth,
Ithel ŵyr Ithel, wr uthr,
Orwyr Ithel Llwyd aruthr,
Etholedig iaith loew-deg,
Ithel, delw Fihangel deg;
Pendefig dri-dyblig dabl,"
Personaidd pur resonabl;
Prelad iawn pur aelwyd yw,
Yr eglwys aur rywiawg-lyw;
Cydwersawg cof diweir-salm,
Fum ag ef yn dolef dalm;
Gyda'r un Athro, clo clod,
A'r hen feistr, gwys yn hanfod;
O'r un llwyth a Ronwy Llwyd,
Post Drefryd pais edrifrwyd;
Pwy mwy o Ronwy uniawn,
Winfaeth benaeth fab Einiawn;
Uriel fu'r angel bro engyl,
Digon ceddid i Degeing!;
Nid oes fab sant o'r cantref,
Oen Duw na phen-rhaith ond ef.
Gre sydd iddaw, gras iddyn—
A meirch,—pam na rydd im un?
Na roed farch cul diarchen,
Llwygus, i wr heinus hen;
Rhag gorwedd, osgedd ysgwn,
Yn dwyn y baich dan i bwn.
Pe caffwn ranswm rwnsi,
Heb fwng ef a hebof fi,
Mi a wn ar hwn yr af,
Mai ebol goffol a gaffaf;
Pwy a'i deil tra pedolwyf?
Pwy a lŷn arno pwl wyf?

O rhed march ar hyd y maes,
Gorwyllt lwdn, fal gafr wallt-laes,
Ni thrigwn eithr ar ogwydd,
I'm cyfrwy, mwy nag wy gwydd.
O thiria hwch a throi hwn,
Camp yw arnaf, y cwmpwn.
O siga cloriau cleiriach,
O syrth, ni ddwg un nos iach,
O brathaf flaen fy nhafawd,—
Wel! yna gwaethyga gwawd.
Nid da i'r cylla ceullawn,
March a thuth amorchudd iawn.
Llyna megis y lluniwn,
Pes ceid yng ngwyliau'r Pasg hwn,
Hacnai a siwrniai sarn,—
Didramgwydd da di-drym-garn.
Gwyn i fyd, hefyd yr haf,
A'i gwelai y modd y gwelaf;
Gwas go gwta, da di-hort,
Ag eddystr mewn cebystr cort,
Yn dyfod dan amod im,
Yn anrheg gan iôn iawn-rym.
Mi a wnaf lawn lawenydd,
I'w gennad ef gyn y dydd ;
Drwy groeso Duw, troi gras da,
Wrtho ef a'm diwartha.


Nodiadau

golygu