Gwaith Iolo Goch/Owen Glyn Dwr

I Ithel ap Rhotpert i ofyn March Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Marwnad Ithel ap Rhotpert
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owain Glyn Dŵr
ar Wicipedia

XLIII. OWEN GLYN DWR.

ADDEWAIS hyn, do ddwywaith,
Addewid teg addaw taith;
Taled pawb tâl hyd y bo
I addewid a addawo;
Pererindawd ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor anwyl, mawr iawn;

Myned adduned ddain,
Lles yw, tua llys Owain;
Yn ddiau, hyd yno ydd âf,
Nid drwg, yno y trigaf;
I gymryd i'm bywyd barch,
Gydag of o gydgyfarch.
Fo all fy naf uchaf ach,
Aur ben cler, dderbyn cleiriach;
Clywed bod, nis cel awen,
Ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen;
I'r llys ar ddyfrys ydd af,
O'r deucant odidocaf;
Llys barwn, lle syberwyd,—
Lle daw beirdd aml, lle da byd;
Gwawr Powys fawr, beues faig,
Gofyniad gwiw a fenaig.—
Llyma'r modd a'r llun y mae,
Mewn ergylch dŵr, mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ag unporth lle'r ai canpyn:
Cyplau sydd, cypleus ynt,
Caboledig pob cwpl ydynt;
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Clostr Westmastr, cloau ystwyth;
Cafell o aur cyfoll yw,,
Cynglynrwym pob congl unrhyw;
Cynglynion yn y fron fry,
Dordor megis daeardy;
A phob un fal llun llynglwm,
Sydd yn i gilydd yn glwm.
Tai nopl ar follt deunaw-plas,
Tai pren glân ar dop bryn glas;
Ar bedwar piler eres,
Mae i lys ef i nef yn nes;
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adailgraff;

A'r bedeir lofft o hoffter,
Yng nghyd gwplas lle cwsg y cler;
Aeth y pedair ddiscleirlofft,—
Nyth-lwyth teg iawn yw wyth lofft;
To teils ar bob ty talwg,
Simneiau lle megir mwg;
Naw neuadd cofladd cyflun,
A naw wardrob ar bob un;
Siopau glân, gynnwys gain,
Swp landeg fal Siep Lundain;
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Pob ty'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, ger wenllys,
Gerllaw'r llys gorlle o'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Parc cwning, meistr por cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl;
Dolydd glân gwyran â gwair,
Ydau mewn caeau cywair;
Melin deg ar ddifreg ddwr,
A'i glomendy gloew maen-dwr;
Pysgodlyn arddyglyn cau,
A fo raid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A'i drí bwrdd a'i adar byw,
Peunod cryhyrod hoew-ryw;
I gaeth a wna pob gwaith gwiw,
Cyfreidiau cyfair ydyw;
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau bragodydd brig;
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A'i gog a'i dân i'w gegin;
Pebyll y beirdd, pawb lle bo,
Pe beunydd caiff pawb yno.

A gwraig oreu o'r gwragedd,
Gwyn fy myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur llin marchog-lyw,
Urddol hael o reiol ryw;
A'i blant a ddeuant bob ddau-
Nythaid teg o benaethau;
Anfynych iawn fu yno.
Weled na chlicied na chlo;
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
Ni bydd eisieu budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth;
Goreu Cymro, tro traglew,
Biau'r wlad, 1lin Bywer Lew.
Gwr meingryf, goreu mangre,
A phiau'r llys-hoff yw'r lle."


Nodiadau

golygu