Gwaith Iolo Goch/Marwnad Meibion Tudur ab Gronwy
← Achau Owen Glyn Dwr | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Ar ddyfodiad Owen Glyn Dwr o'r Alban → |
XXXIX. MARWNAD MEIBION TUDUR
AB GORONWY O BENMYNYDD
YM MON.
LLYMA le diffaith weithion,
Llys rhydd, ym Mhenmynydd Môn;
Llyma Basg, lle mae llwm bardd,
Llef digys wedi llif digardd;
Tebyg iawn, o'r ty bu gynt,
Tudur a'i blant, da ydynt,
Ydyw llys wedi'r llesu
I'r fonachlog ddoniog ddu;
Wynebau trist, un abid,
Un sud a brawd ansawdd bryd,
Ag un wedd gynau i wyr,
Ydyw pawb o'i dai pybyr.
Un lifrai, un a lofrudd,
A'r brodyr, pregethwyr prudd.
Gnottach o'i law iddaw oedd,
Ar wyl fry, roi lifreoedd,
O'r brethynnau brith hownaid,
Ag o'r gwyrdd goreu a gaid;
I gerddorion, breisgion brisg,
I glerwyr na'i alarwisg.
Hwyl ddi-fawl yr Iddewon,
Udo mawr sydd ar hyd Mon;
Cell llwyd wedi colli i llyw,
Odidog o fyd ydyw.
Gweled am Rhys a Gwilym,
Abid du-heb wybod dim.
Ar ol y crefydd erioed,
Cwfaint o feibion cyfoed;
Boed yn nef y bo Ednyfed,—
Mon aeth ysywaeth yn sied.
Hwn a fu farw, garw gyffro,
Gyda i frawd i gadw y fro.
Gwae Fôn, am y meibion maeth
Gwasgarog, fydd gwaisg hiraeth.
Gwasgeiddfawr weilch, gwaith addfwyn,
Gwasgodion gwyr duon dwyn,—
Hardd oeddynt, ym morwynt myr,
Gwragedd Môn a'i goreu-gwyr.
Ner aethant, oerfant arfoll,
Mal ellyllon eillion oll.
Nid marw un gwrda i Môn,
Diau heb wisgoedd duon.
Yn Ynys Dywell, cell cerdd,
Y gelwid Môn, wegil-werdd.
Llwyr y cafas, llawr cyfun,
I chyfenw, a'i henw i hun.
Y dydd tecaf, haf hinon—
Nos fyth yn Ynys Fôn.
Y dydd tecaf haf hwy
A fydd nos hir o Fawddwy.
Mae cwmwl fal mwg gwymon,
Mal clips i mi ym Môn.
Hwyntau oll yn tywyllu
Ni wyl dyn, ond y niwl du.
Eithr eilun, mae uthr olwg,
Megys edrych, mewn drych drwg.
Y ddaearen oedd araul—
Drwg hin wedi duo'r haul.
Y dydd mawr des ydoedd mwy,
Y deuthant i Dindaethwy—
Gorddu gennym ag arddwl,
Gweled pawb fal gwibiaid pwl.
Di-wyl iawn dy oleuni,
Doeth blwyddyn yn ing i mi,
Colli gennym cell Gwynedd,
Cell gwleddau, biau y bedd,
Cellau oer, cell anwerus
Cell y glew Celliwig lys.
Car par paladr, dar dellt,
Gafael-fawr, gwaew ufeltellt
O ragor ni orugug
Oer gêd i'w dynged a'i dug.
Di-fwyn y tair morwyn mawr
A fu lysfam aflesfawr,—
Clopes dewis dlos duwies,
Cletys, Leteisys liw tes;
Oer ffordd y cowson orffen,
O hyd waith i hedau wen:
Ni ryfeddwn, gwn ganwaith,
Pe boddai ar Fenai faith;
Neu ar For Udd arfer oedd,
Penadur byd pan ydoedd.
Braw eisoes oedd i bresent
Suddo i gorff yn swydd Gent,
Mewn pwll trydwll troedig,
Y bu ar Sadwrn, dwrn dig,
A'i arwain ar elorwydd
Llwgr fawr yn Lloegr a fydd,
O Gaer Ludd i drefydd draw,
I gwr Môn, goror Manaw;
Y doeth at frawd llednoeth llwyd,
I briddaw-wb o'r breuddwyd!
I lawr Llan Faes elorwydd
Gyfriw gorff, bu gyrfa'r gwydd.
Aed i nef ag Ednyfed
I frawd fu giwdawd, fu ged.
Derbynied Duw ar bwynt dwys
Y brodyr i Baradwys