Gwaith Iolo Goch/Marwnad Syr Rhys Wgan

Dydd y Farn Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Araeth i Ddafydd ab Bleddyn

XXVI. MARWNAD SYR RHYS WGAWN.

LLYMA oer-chwedl cenhedlawr,
Llas pen Cymry nen yn awr.
Gwahanwyd brawd briawd bron,
Ag enaid Llyfr y Ganon.
Syrthio angel, syrth anghlaer,
Syr Rhys aur, yng ngwregys aer,
Wgawn dryn a roe'r gwin draw
I'w genedl. Gwae o'i gwynaw!

Gwae a'i gweles yng Nghressi―
Gwr di-wael, mewn trafael tri.
Dorgwn gyd, dan gyngyd Gai,
Dewr loew-bryd, mewn dur lifrai;
Pan wisgawdd rudd gamlawdd rhi
Balaen uwch Llethr-dir Beli;
Yno y gweled, nid rhad rhwy,
Gwr praff wrth baladr saffwy;
Ag aruthr gael yn ael nos
Ac oeri traed ac aros.
Pan ddaeth at Ffranc a'r tranc trwm,
A'i lorf, a'i engyl larwm—
Yno y bu cyn tynnu tân,
Cynnwrf ym mlaen twrf taran;—
Arwydd trympau berau bar,
A lluched mellt,—tân llachar,
A'n galw i'w golofn winllys—
Glod eurgledd—rhodd Arglwydd Rhys;
A llew braisg yn llywio a braich,
Llu brenin yn lle Brynaich;
Gwybu Phylib aer-wib wr
I falais, od oedd filwr—
Uthr Ben Dragon lon lendid,
Aeth Paris ar gis i gyd;
Delw Sant Sior a'i dwylaw,
A'r grog drwy fawr annog draw;
Ni chiliodd yn wacheliad,
Ni chyrchodd gwart cart er cad.
Blaidd oedd a threm ddi-eiddil,
Blaidd y fo a blaodd fil.
Da oedd i gof mewn gofid,
A'i laif yn gyflawn o lid—
Uchel oedd niferoedd nef,
A'i eur-grest uwch helm aer-gref.
Mi a'i gwelais, lednais lyw
Dydd anrhaith, nad oedd unrhyw

Yngo fy nghai yn anghudd,
Yng nghaer fardd Emrys yng nghudd—
Gorff marw ar y llawr gerllaw,
A'i genedl yn i gwynaw,
A'i wayw, a'i gae, gwae a'i gwyl!
A'i emys yn i ymyl,
A'i lem lifiaid, drem drydoll,
A'i aesawr, ai i'r llawr oll;
A'i bebyll didwyll du,
Ner a'i faner i fyny,
A'i arwyl a'i hwyl hyloew,
A'i guras a'i helm las loew,
A'i seirch yn gyfryw ag asur
A'i enaid ydoedd ener—
Aed ef i wen-wlad Nef Ner.


Nodiadau

golygu