Gwaith Iolo Goch/Dydd y Farn

Dewi Sant Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Marwnad Syr Rhys Wgan

XXV. DYDD Y FARN.

A FARNANT eur-faint arfoll,
A'r bad mawr ar y byd oll?
Gwyn i fyd cyd cadarn
Cain, diwedd i fyd cyn dydd y farn;
A wnel urddas teyrnas teg
Yng ngwyliau dyddiau'r deuddeg;

Pan ganer lle clywer clod,
Corn cyfarn y cyrn cyfod.
Pob dyn yn gyfan a gyfyd,
I'r lan, o bedwar ban byd.
I'r lle goddefodd, medd llu,
Arw i loes, wrol lesu.
Ag yno y daw yn gwiw-ner,
Adda a'i blant, naw cant ner,
A Noah hen, angen oedd,
Yn fore, a'i niferoedd;
Llawenydd a fydd i'w fam,
Llyw wybrol, a llu Abram;
A llywio rhain a llu rhydd
Moesen yn llenwi'r meusydd;
A llu Dafydd yn llwyr-
Broffwyd ni lyswyd laswyr;
A Phawl Apostol y ffydd,
Ior mwyn, a ddaw i'r mynydd;
Ef a'r nifer ber barawd
A droes i'r ffydd drysor a ffawd,
A rhod yr haul, draul dra-mawr,
A'r lloer a ddisgyn i'r llawr,
A'r saith wiw blaned a'r ser,
O'r nefoedd ar y nifer.

Ag o uffern, hen wern hir,
O garchar hwynt a gyrchir,
Llid hir blin dau-finiog bla,
Llu Satan mewn lliw swta;
Pob dyn i ddyfyn a ddaw,
Yr un dydd yno i wrandaw
Ar y farn flin gadarn floedd,
A thrydar i weithredoedd.
Uwch o ras, Och! wir Iesu!
Dragywydd ofn y dydd du.
Yno y gwelwn yn gwiw-lyw,
Yn ymddangos, agos yw;

Modd ar y groes, naw-loes Ner,
Y gwahanwyd ef dduw-Gwener;
A'r goron hoelion hilyd
O ddraen am y tal yn ddrud;
A'r cethri dur, drwy gur draw,
A dolur traed a dwylaw;
Enaid a roes Duw ynnof
Pan gywirir cweirir cof;
Mihangel, Uriel eirian,
A'r cleddyddau tonnau tân;
Diau yw, gerllaw Duw lon,
Yn dethol y rhai doethion.

Yno y daw Mair air eirian,
Ar dalau i gliniau glân,
Yn dyrchafael gafael gwyn,
I dwylo yn adolwyn;
Aur i llef er i llafair,
I'w Mab, a'i Harglwydd a'i Mair,
Yn eur-chwaer, ag yn erchi
Nef a thrugaredd i ni.
Cawn ran gyda merch Anna,
Lliw dydd ym mysg i llu da;
Ag am hyn, gem henair,
Goreu i mi garu Mair.

Nodiadau

golygu