Gwaith Iolo Goch/Dewi Sant
← Yr offeren | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Dydd y Farn → |
XXIV. DEWI SANT.
DYMUNO da i'm enaid,
Heneiddio 'rwy, hyn oedd raid;
Myned i'r lle croged Crist,
Cyd boed y ddeu—droed ddi—drist,
Mewn trygyff yma'n trigaw,
Ni myn y traed myned traw.
Cystal am ofal im yw,
Fyned teirgwaith i Fynyw,
A myned, cynhired cain,
Yr hafoedd hyd yn Rufain.
Gwyddwn lle mynnwn fy mod,—
Ys deddfol yw'r eisteddfod,
Ym maenol Dewi'm Mynyw,—
Mangre gain, myn y grog, yw.
Yng Nglyn Rhosyn, mae'n iesin,
Ac olewydd, a gwydd, a gwin,
Ac unic miwsic, a moes,
A gwrlef gwyr a gorloes;
A chytgerdd hoew loew lewych,
Rhwng organ achlân a chlych;
A'r thwrwblwm trwm tramawr,
Yn bwrw sens, i beri sawr;
Nef nefoedd yn gyhoedd gain—
Ys da dref ystad Rufain;
Paradwys Gymru lwys lefn,
Por dewis-drefn, pur dwys-drefn.
Petrus fu gan Sain Padrig
Am sorri Duw, amser dig.
Am erchi hyn, amharch oedd
Iddo, o'r lle a wnaddoedd,
Fyned ymaith o Fynyw
Cyn geni Dewi, da yw.
Sant ydoedd ef, o nef i ni,
Cynhwynol, cyn i eni;
Sant glân oedd pan y ganed.
Am hollti maen graen i gred.
Sant i dad, di-ymwad oedd,
Penadur, saint pan ydoedd.
Santes gydles lygadlon,
Yn ddi-nam ydoedd Non.
Merch Ynyr, fawr i chenedl,
Lleian wiw iwch ydyw'r chwedl.
Un bwyd aeth yn i ben—
Bara oer a beryren
Aeth ym mhen Non, wen wiw,
Er pan gad, penaig ydyw.
Holl saint y byd, gyd gerynt,
A ddoeth i'r senedd goeth gynt,
I wrandaw yn yr un-dydd
I bregeth, a pheth o'i ffydd.
Lle dysgodd llu dewis-goeth,
Y bu'n pregethu yn goeth—
Chwe-mil saith ugein-mil saint
Ag unfil-wi o'r genfaint!
Rhoed iddo fod, glod glendid,
Yn ben ar holl saint y byd.
Codes, nid ydoedd resyn,
Dan draed Dewi, fry-fryn.
Ef yn deg a fendigawdd—
Cantref o nef oedd i nawdd;
A'r enaint twym arennig,
Ni dderfydd, tragywydd trig.
Duw a rithiodd dygn-gawdd dig,
Ddeu-flaidd, o anian ddieflig,
A deuwr hen, o Dir Hud,—
Gwydneu Astrus a Gwydrud,―
Am wneuthur drwg antur gynt,
Rhyw bechod o rybychynt
A'u mam-paham y bai hi
Yn fleiddast? Oerfel iddi!
A Dewi goeth a'u dug hwynt,
O'u hir—boen ag o'u herw-bwynt.
Diwallodd Duw i allawr—
I fagl a wnaeth miragl mawr;
Yr adar gwyllt ar redeg,
Yrrai i'r tai, fy ior têg.
Ceirw osgl-gyrn, chwyrn a chwai,
Gweision uthr a'i gwasanaethai.
Duw-Mawrth, calan Mawrth y medd,
I farw yr aeth ef i orwedd.
Bu ar i fedd, diwedd da,
Cain gler yn canu "Gloria."
Yngylion nef, yng Nglan Nant,
Ar ol bod i arwyliant;
I bwll uffern, ni fernir
Enaid dyn yn anad tir
A gladder, di-ofer yw,
Ym mynwent Dewi Mynyw.
Ni sang cythraul brycheulyd,
Ar i dir byth, er da o'r byd.
Hyder a wnaeth canhiadu,
Gras da y Grawys du,
I'r Brytaniaid, brut wyneb,
Y gwnaid rhad, yn anad neb;
Pe bai mewn llyfr o'r pabyr
Beunydd mal haf-ddydd hir,
Notari peblig, un natur
A phin a du a phen dur
Yn ysgrifenu bu budd,
I fuchedd ef ddi-achudd,
Odid fyth, er daed fai,"
Enyd yr ysgrifennai
Dridiau a blwyddyn drwydoll,
A wnaeth ef o wyniaith oll.