Gwaith Iolo Goch/Yr offeren

Mair Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Dewi Sant

XXIII. YR OFFEREN.

O DDUW, am yr hyn oedd dda,
I ddyn pawb a'i heidduna;
I wneuthur, awdur ydwy'
Tra fai, a minnau tra fwy';
Gwirddal y ffydd a gerddodd
Gatholig fonheddig fodd;
A bod gwae ef, oni bydd
Gair ofyn yn gywir ufudd;
Oed budd a bod wrth i ben,
Oreu ffair, yw'r offeren;
A'i dechreu mau godych-wrych,
Iawn waith yw cyffesu yn wych.
Offeren dan nen i ni,
Air da iawn, yw'r daioni;
A'i hoffis aml ddewiso
I bawb o'r deunydd y bo.

Ai o'r Drindawd ddoethwawd ddwyn,
Ai o Fair, wiwia' forwyn,
Ai o'r Ysbryd gloew-bryd Glân,
Ai o'r dydd, mae air diddan,
Ai o'r grog, oediog dyw,—
Mawr yw'r gwyrth—ai o'r marw gwiw;
Ac o lawer rhwydd—der rhad,
Modd arall, meddai uriad.
Llawer ar yr offeren—
Rhinwedd, myn Mair ddiwair wen,
A gyrch drwy orhoff goffa
Offeren, daw i ben da.

Angel da a fydd yng nghod,
Yn rhifc clud eirio clod;
Pob cam medraf adameg,
O'i dy hyd i eglwys deg;

O bydd marw, chwedl garw i gyd,
O'i sefyll yn ddisyfyd;
Os cyfraith loewiaith heb lid,
Dda yn ol Dduw a wnelid;
Anodd i Arglwydd, yna
Ddwyn un geiniogwerth o'i dda,—
Y bara offeren enyd,
Da fu'r gost, a'r dwfr i gyd,
A'n pair cysbell yw felly;
Yn gymunol freiniol fry.
Fo wnair o offeren Fair fwyn.
Moddus gorff, i mab addwyn;
O waith prelad, a'i Ladin,
I waed bendigaid o win.
Teiriaith hybarch diwarchae
Mewn yr offeren y mae—
Lading berffaith hoewdeg,
Gryw, Ebryw, a Groeg;
Rhaid yw tân wrth i chanu,—
Rho Duw dilwfr, a dwfr du;
Mi a wn pam, ond dymunaw,
Y mae'n rhaid tân cwyraid caw;
Wybrennaidd ar gyhoedd gynt,
I dduo byd a ddeuynt,
Rhaid yw felly gwedi gwâd
A glywais gael goleuad.
Llyma'r modd pam y rhoddir,
Da frawd, yn y gwin, ddwfr ir,—
Dwfr fry o fron Iesu wiw-sain,
A ddoeth gyda'i gwaed o ddain;
Pan y cyfodir, wir waith,
I fyny modd man fwyniaith,
Ym mhob lle pan ddarlleër
Fyngial pwyll efengyl per,
Yn bod yn barod berwyl,
I ymladd hoew radd yr wyl,

A'r neb diwyneb uniawn,
A'n ffalsai mwnai a wnawn;
Pell i rym, ponid pwyll raid,
Pum dewin, pam y dywaid
Yr offeiriad i bader,
Yn ôl dyrcha Corff y Ner,
Er dysgu a ffynnu'r tfydd
I ni, a fo yn ufudd
A ro pam yr ai ereill
O'r llu efengyl i'r lleill,
Yn ol Agnus," ni rusia
"Dei, qui tollis," Deus da—
Arwydd tangnefedd eirian,
A maddeu mwygl eiriau mân.
Ucha stad, nis gwad gwyr,
Ar y pab eiriau pybyr.
Eillio troell, well-well, wiw,
Ar i siad, o ras ydyw.

O son am bêr offeren
Pur i bwyll y pair o'i ben;
Wyth rym meddyginiaeth raid
Yw ar unwaith i'r enaid;
A rhwydd-der a gwarder gwiw,
Gywir ffawd, i'r corff ydyw.

Nodiadau

golygu