Gwaith Iolo Goch/Y Brawd Llwyd

Y Cardiau Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Y Brawd Llwyd o Gaer

X. Y BRAWD LLWYD.

TEG o gynnyrch hygyrch hardd,
Taliesin ffraeth-fin ffrwyth-fardd,
Ar garu hoen eira goror,—
Gwylan gar marian y mor.
Penna bardd oedd, pe ni bai,
Y brawd sais, lwyt-bais letbai;
A ddywod ddrwg i ddeuwerth,
Am ysgolheigion son serth;
A'i bregeth-bawbeth o'r Beibl,
Daeog anserchog surchwibl;
Gi brenig, drewedig draed,
Gynfab mab dragwas drygwaed;
Cedo-wrach hagr foel-grach fawr,
Cidwm gwregys-glwm grwys-glawr;
Moelrhon besychlon sechlodr,
Mab cleiriach o'r bwdwr-wrach bodr;
Gorchymyn hen ben glermwnt,
A wnai'r brawd aniwair brwnt.
Yr ai gwraig o'r gwir ogan
Rhag offeiriaid glwysiaid glan,
Gogan bychan, heb achos,
Oedd i'r riain, dlysfain dlos.
Pwy a geisiai, ni wnai neb,
O wyr da, aniweirdeb
Anian y corff a'i ynni,
Yw creu plant meddant i mi;
I amlhau ymyl heol,
Pobl byd, anwylyd yn ol.
Nid amod gwybod mewn gwad,
Gorff aur, garu offeiriad.
Diddarbod iawn dy dderbyn,
Gan Dduw er i fod gan ddyn.
Uchel yw gradd offeiriad,
Achos Duw mae'n uwch ystad;
Am hyn yn wir feinir fydd,
Y gelwir yn ddigwilydd.

Ieuan, degan fendigaid,
Offeiriad i dad a'i daid,
Beth oedd yntau, goreu gwr,
Ieuan, diddan fedyddiwr?
Mab hoff, o gorff offeiriad,
Ffwrdd y doeth un ffordd a'i dad.
Tad doeth Gwynog a Nwythan,
Oedd esgob mewn cadr-gob can.
Teca esgob o bob iaith
Oedd dad Glân Elian, eilwaith.
Ni liwir yn oleuad
I neb odíneb i dad.
Ni ddwg mab arab aren,
Baich i dad, am bechod hen.
Am hynny, yn wir, medd Syr Saint,
Y gwir freinia gwyr unfraint,
O mynnir cred a bedydd,
Rhaid yw offeiriad a ffydd.
Swydd offeiriad, tad a'i twng,
Gallu rhwymaw a gollwng.
Dyn a ddel dan i ddwylaw,
Am a wnêl cyn dêl, o daw.
Maddeu gweithred a meddwl,
Diffodi caledi cwl;
O chaiff gymun a chyffes,
Fo ai i nef a fo res;
Ag ef od af i gyfuwch,
Ni wyr cythrel trafel trwch.
Nid oedd gymaint braint y brawd,
A'i faddeuant i ddefawd,
Ag nid teilwng gollwng gwyll,
Ni wyr gymunaw ereill;
Na bedyddio, bo ddiddim;
Ni wyr Dduw,-a wyr e ddim,
Mwy na mwdwl moel madarch?
Moeswch mwy a ys na march.

Nodiadau

golygu