Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Bydd tramwyfa fawr o ser
← Yr eang berl-feusydd | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Englynion gnodau → |
BYDD TRAMWYFA FAWR O SER
BYDD tramwyfa fawr o ser
Fyth rhwng y byd a'r wynfa bêr.
A hyd-ddi daw angylion nefoedd,
Ar bererindod trwy y bydoedd ;
Ac wrth y dyfroedd cwyd eu llu,
Eu gwawl ddinasoedd gyda ni.
A phrennau bywyd ddygant hwy,
O fryniau tragwyddoldeb mwy;
I'w plannu dan awelon Ior
Ar erfawr gylch o for hyd for.
Awelon bywyd ar eu brig
Orffwysant fel anthemau myg;
A bedd ni faidd ymagor mwy,
Dan wawr eu bywiol gangau hwy.
Cenhedloedd yn eu cysgod chwarddant,
A rhos paradwys yno darddant;
A themlau fyrdd, fel blodau, 'n awr
A dyfant dan eu dwyfol wawr.
Ac ni fydd adsain galar mwy
Yn gorffwys ar eu cangau hwy;
Na gauaf oer, nac anadl angau,
Yn tywallt gwywdra ar eu cangau.
O lwch y codwm, adfail byd,
Areulfro Eden wawria i gyd;
A'r cleddyf ysgwydedig glain
Fyth gleddir yn y ddwyfol wain.