Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Yr eang berl-feusydd

Cân y Gwaredigion Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Bydd tramwyfa fawr o ser

YR EANG BERL-FEUSYDD

A NOS fawr o ddyfroedd
Cymylodd yr Ior
Holl eang berl-feusydd
Gwaelodion y môr;
Mae anian yn gwisgo
Dyffrynnoedd y weilgi
A thrwch o fyrierid
Fel gwanwyn â gwyrddni.

Pa ddiben amlennu
Eurgloddfa mor glaer,
Pa ddiben palmantu
Y dyfnder ag aur?
Paham ca y mân-bysg
Mor dawel gysgodi
Dan fryniau o berlau
Pan ferwo y weilgi?

Mae trysor diderfyn
Yn for wrth dy draed;
Oes, gyfoeth yn gorwedd
Mewn dyfnder o waed
O galon Jehovah
Agorwyd un dydd ;
Ar ddyfroedd trugaredd
Taen hwyliau dy ffydd.

O agor dy lygaid
Gwel foroedd bob tu,—
Bendithion yn foroedd,
Maddeuant yn lli;
Ond rhaid ymorchestu
Yn ffyddiog ddi-ffael,
Rhaid ceisio i dderbyn,
Rhaid gofyn i gael.

Nodiadau

golygu