Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Efryda wedd natur
← Pwy all edrych, Gymru | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Mae llwybr y storm → |
EFRYDA WEDD NATUR
EFRYDA wedd natur,
Mawr yw yr elw ;
Mawr yw yr elw;
Mae natur yn troi
Ei hefrydwyr i'w delw.
Nid ofer myfyrio
Ar ymyl yr aig ;
O, dedwydd yr annedd
Dan gysgod y graig.
Trom, trom yw y galon
All wrando yr awel,
A bod mewn cadwyni
Ei hunan yn dawel.
Y nefoedd ni ledwyd
Tros ormes yn do,
A'r bryn ni orseddwyd
Ar adfail y fro.
Pwy gyfyd ei law
Yn erbyn y daran?
Pwy fatha ei enw
Ar gerbyd yr huan?
A phwy amgylch yna
Bell ddinas y ser,
A chwifia ei faner
O'u tyrau ter?