Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mae llwybr y storm
← Efryda wedd natur | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Nid yw hwnnw mwy → |
MAE LLWYBRAU Y STOROM
MAE llwybrau y storom
Mor llydain a'r nennau,
A'r broydd oll iddi
Yn agor eu dorau.
Pan goda y mynydd
Ei gaerau i'w herbyn,
Y nef a'i gwahodda
I'w mynwes ddiderfyn.
Pan ddringa i gerbyd
Y beiddgar elfennau,
Palmentir ei llwybyr
Hyd fil o wybrennau.
A'r dyfnder agora
Ei ddorau ystormus,
A'r moroedd tramwya
Mewn rhyddid mawreddus.
A phwy all ei gweled yn tramwy y nefoedd,
Yn croesi y môr ar aden y gwyntoedd,
Heb yfed ei hanian, a'i gwyllt ysbrydoliaeth,
A theimlo y myn, y myn fuddugoliaeth?
Mae geirwon lythrennau beiddgarwch a gallu
Ar fil o fynyddoedd draw wedi'u hargraffu ;
Ah! 'r beiddiant tragwyddol a hyrddiant i
wyneb
Yr arfog elfennau o thronau 'u gwylltineb.
A'r Nefoedd arfoga
Ei thymhestl fawr,
Gan gyffwrdd a'i tharan-ryfelgloch,
Gan hyfed a gwyllted eu gwawr.