Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Pont Glandŵr
← Darlun Mawredd y Mynyddoedd | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Bydd nos y bydoedd mawr → |
PONT GLANDWR.
AH gadarn lwybr mewn wybren,—trwy wych hynt
Rhychwanta'r ffurfafen;
A chluda, ar uchel aden,
Drysorau nwydd drwy asur nen.
Gyrr y berwol ager-beiriant—drosti
Yn drwst o urdduniant;
Olwynion fil ddilynant,
Trwy y nen fel taran ant.
Ar ehed-ddull draw hyd-ddi—y tynnant
Eu melltennol resi;
A'r agerdd yn amgrogi
Gwisg o darth, ei gwasgod hi.
Erfawr lam i awyr-fyd,—eres daith
Heibio'r ystorm enbyd;
Haiarn saflawr, ni syflyd
O'i chlaer borth nes chwalo'r byd.
A Thawy donnog ar daith dani—red,
Rhwng ei beilch sylfeini;
Ah! Daliant chwydd y dyli,
A threch nerth na'i throchion hi.