Gwaith John Hughes/Cofnodion Sasiynau

Llythyrau at Ruth Evans? Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Cofiant Ann Griffiths

COFNODAU CYMDEITHASFA DOLGELLEU.

Hydref 26, 27, 1814.

Dau o'r gloch y dydd cyntaf.

1. Penderfynwyd na byddai i neb argraffu marwnadau, &c., heb genad y Gymdeithasfa.[1]

2. Penodwyd ar Mr. Jones, Dimbych, i ysgrifennu hanes bywyd Mr. Charles o'r Bala. [2]

3 Anogwyd i ddilyn ei rinweddau yn mhobpeth.

4. Am yr Ysgolion Sabothol. Yn 1. Fod pob athrawon yn dosparthu eu hardal i fyned i gymell pob oedran i'r ysgol. Yn 2. Y byddai yn fuddiol i'r athrawon ddyfod ynghyd haner awr cyn dechreu'r ysgol. Yn 3. Fod pob ysgol i ddechreu trwy ddarllain gweddio, a diwedd trwy weddi. Yn 4. Fod pob athrawon yn ymdrechu i

ddysgu corph o egwyddorion iachus i'w ysgolheigion. Yn 5. Peidio a thoi rheolau rhy gaeth mewn perthynas ddull yr ysgolion. Yn 6. Parau heb roi i fyny yr ymdrech am gael hen bobl i ddysgu darllain, fod yn cyffredin yn rhai manau fod yr wyrion yn dysgu taid a nain. Yn 7. Esiamplau am hen bobl yn Bristol yn dysgu. Un hen wraig 85 oed yn dysgu ac darllain penod ar goedd er anogaeth i ereill. Un arall 98 oed. Hefyd meddwyn afreolus yn dysgu darllain ac yn dyfod yn ddyn gweddus. Fod y rhai enwocaf yn mhlith y gweinidogion a wrthodwyd am anghydffurfio ag E Lr. gynt yr rhai mawr egwyddori. Yn & Yn Ysgolion Sabothol yr Ywerddon fod yr athrawon yn gwasgu pethau at yr ysgolheigion drwy bregethu llawer iddynt yn bersonol. Eu bod yn fanol am ddysgu moesau da iddynt nes y mae ol y plant ar y teyluoedd a'r tai y maent yn byw ynddynt 9 y byddai yn fuddiol cadw ysgol y noswaith

5. Y dylid gochelyd meithder mewn darllain, canu, a gweddio mewn cyfarfodydd mawrion.

Drannoeth bu ymdrin â'r ail orchymyn, a sylwodd rhywun, ymysg pethau eraill —

nad yw gwneyd tonau ar lais, lluniau ar gyrph wrth ddarllain, canu, a gweddio ond rhyw achos i euln addoliaeth.


Yn nesaf daw "Llyfr Caniad Solomon, wedi ei gyfansoddi ar gân ar amryw o fesurau, gan John Hughes, Pont Robert, swydd Drefaldwyn.[3] Yna Hymnau A. G.,"O am dreiddio" &c.

Psalm 1.

Dedwydd y gwr gwir ffyddlon
Ni rodia ynghyngor annuwiolion;
Ni saif yn ffordd y pechaduriaid.
Nid eistedd gyda y gwatwariaid.

Ond ei ewyllys a gartrefa
Yn sanctaidd gyfraith y Jehofa,
Ac ynddi mae ei fyfyr nefol,
Ddydd a nos, yn wir arosol.

Fe fydd fel pren planedig tyfol
Ar lan afonydd dyfroedd bywiol;
Rhydd ffrwyth mewn pryd, ei ddail ni wywa,
'N oll a wnel efe a lwydda.

Nid felly bydd y dyn annuwiol,
Ond fel y manus gwael aflesol,
Heb bwys na gwerth, hollol ddifaith,
Nerth y gwynt a'i chwal ef ymaith.[4]

Oherwydd hyny'r anhuwiolion,
Ni safant yn y farn fawr gyfion;
Na phechaduriaid ynghyn'lleidfa
Y rhai cyfiawn y dydd ola.

Jehofa edwyn ffordd cyfiawnion,
Fe gym'radwya lwybrau union;
Ond ffordd y didduw ddynion anwir
Diau fyth y llwyr ddifethir.

Nodiadau

golygu
  1. Yn ei ragymadrodd i Gofiant Owen Jones o'r Gelli, dyddiedig Chwef. 27. 1830. dywed John Hughes.—"Yr wyf yn golygu fod Marwnad neu Gân o alar yn fwy addas yn niwedd hanes bywyd gwr nag yn Ganuan arni ei hun; canys y mae Marwnad arni ei hun, nid yn unig yn myned yn rhy debyg i Ffair-Gathl, ond hefyd weithiau yn Ffair-Gathl, yr hyn nid yw weddus i fod am weinidogion yr efengyl."
  2. Bu Mr. Charles farw Hydref 5, 1814
  3. Cyhoeddwyd hwn yn 1821
  4. Newidiwyd fel hyn,

    Ef a fydd fel pren planedig,
    Wrth afonydd tra dwfredig,
    Yn ei bryd o hyd y ffrwytha.
    A'i ir ddeilen byth ni wywa;
    Pa beth bynnag oll a wnelo
    E fydd achos lwyddiant iddo,
    Ni bydd yr annuwiol felly.
    Ond fel us i'r gwynt e chwalu.