Gwaith John Hughes/Cofiant Ann Griffiths

Cofnodion Sasiynau Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Ol-ysgrifen

J Thomas.]

EGLWYS LLANFIHANGEL YNG NGWYNFA.

Yn yr hen eglwys y bedyddiwyd ac y priodwyd Ann Griffiths; yno, befyd, y bedyddiwyd ac y priodwyd John Hughes. Gwelir cof-golofn Ann Grifiths ar y dde.

Cofiant Ann Griffiths.

WEDI DEUGAIN MLYNEDD.

Yn "Nhraethodydd" 1846, rhifyn Hydref y mae gan John Hughes erthygl dan yr enw "Cofiant a Llythyrau A. Griffiths." Wedi hynny cyhoeddwyd yr erthygl yn llyfr. Dyma hi

Priodol yw dwedyd am wrthddrych y cofiant hwn yn gyffelyb ac y dywedodd yr apostol Pau am Andronicus a Junja, ei geraint, eu bod "yn hynod ymhlith yr apostolion." Am Ann Griffiths, gwirionedd dïormoddiaeth ydyw ei bod yn hynod ymhlith y merched a'r gwragedd crefyddol

Hi oedd ferch henaf John a Jane Thomas, Dolwar Fechan, plwyf Llanfihangel yn Ngwynfa, sir Drefaldwyn, a'r ieuangaf ond un o'u plant. Yr oedd Mr. John Thomas yn un o'r tyddynwyr mwyaf parchedig yn y plwyf, yn wr synwyrol fel gwladwr, ac yn meddu ar radd o ddaw barddoniaeth. Eglwyswr selog oedd ef, a'i deulu oedd o'r un tueddfryd; ond nid oedd dim gwir ddaioni i'w ddysgwyl yn eglwys y plwyf y pryd hyny, canys nid oedd yno weledigaeth eglur." Hynod o bell oedd Mr. John Thomas a'i deulu oddiwrth feddwl am wrandaw ar neb o bregethwyr un blaid o Ymneillduwyr. Myned i eglwys y plwyf y Sabbothau, a dilyn y dawns, &c., oedd agwedd ieuenctyd y wlad y pryd hwnw, ac felly yr arferai ieuenctyd y teulu hwn. Ond daeth crefydd er hyny i'r teulu hwn, a hyny yn y modd a ganlyn. Rhoddodd un cymydog, oedd yn aelod gyda y Methodistiaid Calfinaidd, fenthyg y llyfr hwnw o waith Baxter, a elwir "Tragywyddol orphwysfa'r Saint," i John, mab hynaf John Thomas; ac wrth ddarllen hwnw, a'i ddarllen hefyd i ryw wraig oedd yn y gymydogaeth, yr hon, mae yn debyg, oedd heb fedru darllen ei hunan, ymaflodd yn ei feddwl ddwys-ystyriaeth o'r anghenrheidrwydd am feddu gwir grefydd. Ond y modd yr oedd yn bwriadu cyrhaedd hyny oedd trwy fynych gyrchu i eglwys y plwyf, gan adrodd tywydd ei feddwl wrth yr offeiriad, yr hwn a ymddygai yn serchog tuag ato, a dangosai lawer o barch iddo: Ond er hyny nid oedd ei gynghorion iddo yn feddyginiaeth gymhwys i enaid argyhoeddedig, sef ei gynghori i ymarfer a difyrwch cnawdol, i gael ymlid ymaith bob meddyliau pruddaidd a thrymion. Wedi cael ei siomi yn nghyfeillach yr offeiriad, ymroddodd i ddyfod i Ben llŷs i wrandaw gweinidogaeth pregethwyr y Methodistiaid; a thrwy y cyfryw foddion, cafodd yr ymgeledd ag yr oedd yn teimlo anghen am dano, a chynnygiodd ei hun yn aelod o'r cyfryw blaid grefyddol, a chafodd dderbyniad serchog.

Yr oedd John Thomas, ieuangaf, yn ddyn o dymher ddystaw, dwys, a serchogaidd, ac yn syml a thra difrifol yn ei agwedd grefyddol. Yr oedd y teulu, am yspaid cyntaf ei broffes ef. yn edrych ar grefydd ynneillduol gyda chryn ddirmyg: er hyny ni ddangosasant gasineb chwerw tuag ato, canys yr oeddynt yn deulu tra serchog tuag at eu gilydd. Ond yr oeddynt yn dangos cryn lawer o ysgafnwawd o'i grefydd ef; ac yr oedd Ann y pryd hwnw yn llawn can waethed yn hyn a neb o honynt, ond yr oedd ei sobrwydd syml ef yn ennill parch iddo yn eu meddyliau. Pan ydoedd mewn cryn drallod meddwl yn achos ei gyflwr ei hun, ac yn achos mater tragywyddol ei deulu, ymneillduodd i'r daflod wair i weddio; a phan yn yr ymdrech yma mewn gweddi ddirgel, daeth y geiriau canlynol i'w feddwl gyda goleuni a nerth mawr, "Er fod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynnydda yn ddirfawr;" a chafodd weled eu cyflawniad, canys daeth ei dad, ei frawd, a'i ddwy chwaer at grefydd. Yn mhen ychydig flynyddoedd wedi iddo ddyfod yn aelod o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Pen llŷs. [1] dewiswyd ef yn ddiacon, yr hon swydd a wasanaeth odd yn ddyladwy a ffyddlawn. Yr oedd ei afael daer-ddwys am gyhoeddiadau pregethwyr efengyl i'r Bont a Dolwar bron yn anorchfygol. Bu pregethu yn y tŷ annedd, sef Dolwar Fechan, am ynghylch naw mlynedd, a hyny gyda llawer o lewyrch y rhan amlaf. Os deuai pregethwr dyeithr yno unwaith, byddai yn sicr o ddyfod yno drachefn pan ddeuai i'r cyfleusdra; er na fu y weinidogaeth yno yn foddion dychweliad i nemawr ond y teulu Bu farw John Thomas, ieuangaf, mewn tangnefedd, yn mis Ionawr, 1808.

Yn awr, dychwelwn at brif wrthddrych ein cofiant, Ann Thomas, wedi hyny Ann Griffths. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1780, yn Dolwar Fechan. Cafodd beth ysgol yn ei hieuenctid, i ddysgu darllen Saesoneg, ac ysgrifenu; ond nid oedd yn deall ond ychydig o Saesoneg. O ran ei hynsawdd, yr oedd o gyfansoddiad tyner, . wynebpryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, yn dalach o gorffolaeth na'r cyffredin o ferched. llygaid siriol ar don y croen, ac o olwg lled fawreddog, ac er hyny yn dra hawdd nesau ati mewn cyfeillach a hoffai. Yr Oedd wedi ei chynnysgaethu a chynneddfau cryfion; ond lled wyllt ac ysgafn ydoedd ei hieuenctid. Hoffai ddawns, ac arferai ei doniau i siarad yn lled drahaus am grefydd a chrefyddwyr o Ymneillduwyr. Dywedai yn wawdus am y bobl a fyddai yn myned i Gymdeithasfa y Bala, "Dacw y pererinion yn myned i Mecca," gan gyfeirio at bererindod y Mahometaniaid. Ryw dro, nis gwyddom yr amser, aeth i Lanfyllin mewn bwriad i ddawnsio, pa un ai gwylmabsant neu ryw gyfarfod gwag arall oedd yn bod yno ar y pryd nid ydys yn awr yn gwybod i sicrwydd, ond tebygol mai amser gwylmabsant ydoedd yr adeg. Mwynhau difyrwch cnawdol oedd yn ei golwg hi yn y daith hon, ond peth arall oedd yn ngolwg Duw tuag ati; sef dechreu ymweled a hi yn ol ei arfaeth ei hun, a'i ras, er ei dwyn i fwynhau difyrwch annhraethol well na'r difyrwch gwag ag yr oedd hi yn cyrchu ato. Wedi iddi gyrhaeddyd i Lanfyllin, cyfarfu â merch a fuasai ryw amser yn ol yn forwyn yn ei theulu; cymhellodd hono hi i ddyfod i wrandaw pregeth i gapel yr Annibynwyr, gan ddyweyd wrthi fod yno ŵr dyeithr enwog yn pregethu. Hi a gydsyniodd a'r cais, a'r diweddar Barchedig Benjamin Jones, Pwllheli, oedd yno yn pregethu. Effeithiodd y bregeth ar Ann yn lled ddwys, nes y penderfynodd ymofyn am grefydd, yn lle dilyn gwagedd. Ond ei phenderfyniad y pryd hwn oedd ymofyn am grefydd trwy y moddion o gyrchu yn fwy dyfal i eglwys y plwyf. Y dydd Nadolig canlynol cyfododd yn foreu i fyned i eglwys Llanfihangel'i gyfarfod a elwir plygain.

Yr oedd yn myned ei hunan dan wylo, trwy y tywyllwch ar hyd llwybrau tra anwastad a geirwon, tra yr oedd ei brodyr wedi myned yr un pryd i gyfarfod crefyddol o'r enw i Bont Robert. Colli cwmni ei brodyr, ynghydag eiddigedd am eu bod wedi myned i foddion y Methodistiaid, ynghyda thywyllwch a gerwindeb y ffordd, a barodd iddi fyned dan wylo. Erbyn iddi gyrhaeddyd i'r dreflan, nid oedd yno neb wedi codi; bu am ryw yspaid yno yn yr oerfel a'r tywyllwch, yn aros am ddechreu y cyfarfod. Yn mhen ychydig amser, dechreuodd y cyfarfod; ac wrth ddyfod o'r eglwys, nesaodd yr offeiriad ati mewn modd tra serchog a siriol, ac a ymaflodd yn ei llaw, gan ddywedyd, "Ann, a ydyw gwythenau gwagedd wedi ymadael yn llwyr o'ch dwylaw?" ac yna gwahoddodd hi i'w dy i gael boreufwyd, canys yr oedd hi a'i theulu yn dra pharchus yn ngolwg yr offeiriad; ond ei ymddyadanion â hi yn ei dy oeddynt nid yn unig yn anghrefyddol, ond yn rhy anweddaidd i'w hadrodd. Yn ganlynol i hyn yma, daeth i'r un penderfyniad ag y mae Esgob Beveridge yn ei "Feddyliau ar Grefydd" yn adrodd, wedi sylwi ar amryw fath o grefyddau, sef "Y mae yn rhaid i mi fyned i rywle arall i ymofyn am grefydd." Mewn canlyniad i hyn yma, dymunodd ar ei thad am gael myned i Lanfyllin i ddysgu gwnio; ei hamcan oedd cael myned tan weinidogaeth yr Annibynwyr; ond cyn i'r bwriad uchod gael ei gyflawni, daeth i Bont Robert i wrandaw ar ryw bregethwr (tybir mai Mr. Ishmael Jones oedd yn pregethu) ac wrth wrandaw y bregeth hono gorchfygwyd ei rhagfarn at y Methodistiaid; ac nid hyny yn unig a fu effaith y bregeth hon arni, ond hefyd bu yn foddion dwfnhâd ystyriaeth ei meddwl am ei chyflwr; profodd argyhoeddiadau grymus o'i phechadurusrwydd a cholledigaeth ei chyflwr. Yr oedd awdurdod ac ysbrydolrwydd y ddeddf yn ymaflyd mor rymus yn ei meddwl, hyd oni bu yn ymdreigio amryw weithiau ar hyd y ffordd wrth fyned adref o'r Bont o wrandaw y pregethau, gan ddychrynfêydd a thrallod ei meddwl.

Yn lled fuan ar ol hyny, daeth i gynnyg ei hun, a chafodd dderbyniad rhwydd fel aelod o'r gynnulleidfa eglwysig yn Mhont Robert. Yr oedd agwedd hynod o ddeffrous arni yn ei hymddangosiad cyntaf yn y gymdeithas neillduol hon—pa amser oedd y pryd hwn nis gellir yn bresennol wybod yn fanylaidd a sicr, y mae yn lled debyg fod hyn yn nghorff y flwyddyn 1797 yr oedd diwygiad grymus wedi dechreu yn Mhont Robert er ys dwy flynedd, ond heb oeri nemawr hyd y pryd hwnw. Pa hyd y bu Ann dan rym yr argyhoeddiad cyn cael golwg ar y Gwaredwr, a phrofiad o dangnefedd yr efengyl, nis gellir cofio yn bresennol, ond y mae yn dra thebygol nad yn hir; ond hi a gafodd y fath amlygiadau ysbrydol o ogoniant person Crist, gwerth ei aberth, grym ei eiriolaeth, anchwiliadwy olud ei ras, a chyflawnder yr iachawdwriaeth gogyfer a'r penaf o bechaduriaid, ag a barai iddi dori allan mewn gorfoledd cyhoeddus ar brydiau dros yspaid ei hoes grefyddol.

Yn y gwanwyn, yn y flwyddyn 1803, bu farw Mr. John Thomas, ei thad, mewn yspaid byr, gan rym colic yn ei ymysgaroedd, yr hyn a gafodd effaith ddwys ar feddwl Ann, hyd oni wanychodd gryn raddau ar ei hiechyd tra bu byw. Yn mis Hydref, yn y flwyddyn 1804, priododd Miss Ann Thomas & Mr. Thomas Griffiths, [2] brawd i'r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant Meifod. Ynghylch pen deng mis wedi priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon a fu farw yn bythefnos oed; a bu farw y fam yn mhen pythefnos ar ol ei merch. Yr oedd Mrs. Griffiths yn ei dyddiau a'i horiau olaf yn dra gwanaidd, a than ddiffyg anadl i raddau mawr, fel nas gallodd lefaru ond ychydig. Dywedai ei bod wedi dymuno lawer gwaith am gael gwely angeu yn adeg oleu ar ei meddwl, ond erbyn myned iddo nad ydoedd yn edrych cymaint ar hyny; ond ei bod yn cael modd i ymorphwys yn dawel ar gadernid y cyfammod tragywyddol a threfn cadwedigaeth pechaduriaid trwy y Cyfryngwr mawr.

Bu farw yn mis Awst, yn y fwyddyn 1805. Ar ddydd ei chladdedigaeth, casglodd torf lïosog ynghyd, a thraddodwyd pregeth ar yr achlysur gan Mr. Thomas Owens, o'r Bala y pryd hwnw, ond yn awr o'r Wyddgrug, oddiar Col. iii. 4 Hebryngwyd ei rhan farwol gan dorf liosog i fynwent Llanfihangel, hyd ganiad yr udgorn diweddaf, pan ei cyfodir yn anllygredig ac mewn gogoniant. Y boreu Sabboth canlynol, traddodwyd pregeth anghladdol iddi yn nghapel Pont Robert gan y Parch. John Hughes, ar y geiriau "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw."[3] Ei hoedran yn marw oedd ynghylch chwech-ar-hugain." Yn mhen rhyw yspaid ar ol ei chladdedigaeth, aeth Mr. Thomas Griffiths i edrych ei bedd; a chyfansoddodd y pennill canlynol, ac nis gwyddom iddo gyfansoddi yr un arall yn ei oes:—

Bydd yno ryw ryfeddod na welodd dyn eriod,
Er pan y crewyd Adda i'r olaf ddyn fo'n bod;
Y dyrfa yn gwahanu bawb i'w ei le ei hun.
A ninnau yn cael gwledda yn nghwmni Mab y Dyn."

Daeth adref mewn rhyw agwedd dra hynod dan wylo a than ganu. Tystir hyn gan un sydd eto yn fyw, ag oedd yno yn gwasanaethu ar y pryd.

Yn ganlynol, teilwng ydyw coffau rhai o'r pethau hynod a fu yn ngyrfa fêr yr hon y rhoddwyd yr hanes byr uchod am dani: oblegid un hynod ydoedd—hynod o ran cynneddfau eang a chryfion, hynod o ran gwybodaeth ysgrythyrol a phrofiadau ysbrydol; a hynod o ran serchogrwydd, a sirioldeb, a sancteiddrwydd buchedd: yr oedd yn goron o harddwch i'w phroffes. Bu ysgrifenydd y cofiant hwn yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Dolwar Fechan, ac yn lletya am amryw fisoedd yn Dolwar Fechan; a rhagorfraint nid bychan oedd cael cartrefu am yspaid yn y fath deulu serchog a gwir grefyddol. Yn yr yspaid hwn, bu lawer o weithiau am amryw o oriau ynghyd yn ymddyddan ag Ann am bethau ysgrythyrol a phrofiadol, a hyny gyda'r fath hyfrydwch, hyd oni byddai oriau yn myned heibio yn ddiarwybod: ac ar ol iddo ymadael oddiyno y derbyniodd y llythyrau a welir yn y diwedd oddiwrthi, y rhai sydd, fel eu gwelir, oll o natur grefyddol.

Un hynod ydoedd mewn diwydrwydd i weddïau dirgel, a hynod ei hymdrechiadau ynddynt. Byddai ar brydiau yn cael y fath ymweliadau grymus yn ei hystafell ddirgel, hyd oni byddai yn tori allan mewn gorfoledd uchel, fel y gellid ei chlywed o ystafelloedd y ty, ac weithiau clywid ei bloeddiadau gorfoleddus led amryw gaeau oddiwrth y ty. Un tro, pan oedd Mr. Griffith Jones o'r Sarnau, ger y Bala, a'r Parch. John Parry, Caerlleon, yn Dolwar Fechan yn pregethu, cawsant rwyddineb neillduol i lefaru, a thorodd yn orfoledd cryf ar Ann ac eraill ar ddiwedd y cyfarfod; ac wedi i bob peth lonyddu, dywedodd Ann wrthynt ei bod hi wedi meddwl y caent odfa lewyrchus y noswaith hono. Gofynasant hwythau ar ba seiliau yr oedd wedi meddwl hyny. Nid hawdd oedd ganddi ateb—ond yn y man hi addefodd mai ei seiliau oedd, ei bod wedi cael cymhorth neillduol yn y dirgel yn achos yr oedfa: ac mae lle cryf i farnu y byddai yn fynych mewn ymdrechiadau yn y dirgel yn achos yr oedfäon cyn y deuent. Byddai ar brydiau, pan wrth ei throell yn nyddu, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd ei dillad, gan fyned yn fynych i'w hystafell ddirgel, a'i hymddangosiad yn profi yn eglur ei bod mewn trallodd tra mawr o ran ei meddwl y prydiau hyny: a hoffai yn fawr gael pob dystawrwydd pan y byddai yn yr agwedd hon.

Yr oedd yn serchog iawn tuag at y pregethwyr a ddeuent yno i bregethu. Dywedodd ryw dro wrth barotôi ymborth erbyn dyfodfa rhyw bregethwr, mai hyny o hyfrydwch oedd hi yn ei gael yn mhethau y byd hwn oedd mewn parotôi ymborth i bregethwyr yr efengyl. Gweuai lawer pâr o hosanau gorwych, &c., i'w rhoddi i bregethwyr ag y gwyddai fod eu hamgylchiadau yn isel.

Yr oedd o dymher naturiol fywiog, siriol, a chyfeillgar. Am ryw adeg, sylwodd morwyn grefyddol oedd yno y pryd hwnw, ei bod i ryw radd yn tueddu i agwedd mwy ysgafnaidd wag a fyddai arni yn gyffredin: a gwnaeth yn hysbys iddi nad oedd ei hagwedd mor ddifrifol ag y byddai yn arferol o fod: a bu hyn yn ofid dwys ac yn drallod trwm i'w hysbryd; yr hyn sydd brawf amlwg o dynerwch ei chydwybod. Diolchodd i R. H. am ddyweyd wrthi; ie, diolchodd i'r Arglwydd am roddi ar ei meddwl ddyweyd wrthi. Anfynych y mae y fath gyfeillach agos mewn ystyr grefyddol rhwng meistres a morwyn ag oedd rhwng Ann ag R. H. am y pedair blynedd y bu yno yn gwasanaethu.

Byddai Ann ar brydiau yn myned i'r Bala at y Sabboth y byddai swper yr Arglwydd yn cael ei weinyddu yno gan y diweddar Barch. T. Charles; oblegid tra anfynych yr oedd yr ordinhad hono yn cael ei gweinyddu yn Mhont Robert y pryd hwnw, pan nad oedd neb ond yr offeiriaid a berthynent i gorff y Methodistiaid yn gweinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Un tro, wrth ddychwelyd adref o'r Bala, dylanwyd ei meddwl a golygiadau ar ddirgelwch y Drindod, ac ar ddirgelwch a gogoniant person Crist, a'r dedwyddwch o gael myned i'w weled fel y mae a bod yn gyffelyb iddo, a bod yn wastadol gydag ef, hydoni lynewyd ei myfyrdodau mor lwyr, fel na wybu ddim am dani ei hun nes dyfod dros Ferwyn, i flaen plwyf Llanwddyn, yr hyn oedd ynghylch pum' milltir o ffordd, a hyny ar anifail a fyddai yn arfer bod yn gryn afreolus. Y pryd hwnw y cyfansoddodd y pennill canlynol:—

"O dedwydd ddydd, trag'wyddol Orphwys
O bob llafur yn y man
Y'nghanol môr o ryfeddodau,
Heb un gwaelod byth na glan:
Caffael mwy fynediad helaeth
I drig tanau TRI yn UN
Dwfr i nofio heb fyn'd trwyddo
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn."

Yr oedd yn meddu ar gôf hynod o gryf; adroddai bregeth yn lled gyflawn a chyson; ac ysgrifenodd amryw o bregethau y diweddar Barch. John Elias, ac eraill, yn lled gyflawn.

Y merched mwyaf syml a duwiol-fryd a berthyrai i eglwys Pont Robert oedd ei phrif gyfeillesau, er nad oedd rhai o honynt ond tra isel eu hamgylchiadau bydol; a byddai rhai o'r rhai hyn yn myned i'w hebrwng pan y byddai yn myned adref o'r Bont o'r moddion: ac ni fyddent yn ymadael heb i un neu ddwy neu ragor fyned i weddi: a mynych iawn y torai yn orfoledd cryf arnynt, nes y byddai y cymau yn dadseinio gan rymusder sain eu pêr ganiadau. Un tro, aeth tair o honynt ar eu gliniau i weddio cyn cyrhaedd lled cae oddiwrth y capel, er fod yr eira at eu migyrnau; a chyn terfynu aethant i ganu a gorfoleddu hyd onid oedd y swn yn dadseinio drwy': gymydogaeth; a chofus genym glywed Ann yn dyweyd na fyddai dim anwyd arnynt hyd yn nod yn yr eira, ond cael digon o gynhesrwydd ysbrydol oddifewn. Dro arall, bu eu cyfarfod ymadawol ar lan yr afon gogyfer a llyn dwfn, a chanasant y geiriau canlynol gyda rhyw hwyl gref a nefolaidd:—

"Ni bydd diwedd byth ar rinwedd
Sylwedd mawr Bethesda lŷn."

Ac un o honynt, ac oedd heb ei cholli ei hun mor llwyr a'r lleill, a ofnai mai i'r llyn y disgynent: ond ni bu hyny. Dro arall, ar noswaith led dywell, fel yr oeddynt yn cerdded ymlaen dan ganu a moliannu, collasant y ffordd, ac aethant i ryw fan anwastad a chlapiog, hyd onid oeddynt yn syrthio ar hyd y llawr, ac er hyny yn canu ac yn moliannu hyd yn nod pan oeddynt ar lawr. Dro arall, pan oedd Ann a'i chyfeillesau yn cadw cyfarfod gweddi, wrth ymadael i ddychwelyd i'w cartrefi, pan yr oeddynt mewn hwyl nefolaidd yn canu ac yn moliannu Duw, daeth pac o lancia gwag ac anystyriol atynt mewn bwriad o'u gwawdio a'u dyrysu; a chlywodd un o'r merched, oedd heb fod dan ddylanwad cryf o'r hwyl nefolaidd y tro hwn ar ei thymher, y llanciau yn siarad â'u gilydd wrth y nesaf atynt, ac un yn gofyn i'r llall, "Yn mha un yr ymafli di?" Atebai, Yn y benaf"—sef Ann. Ond pan oedd yn ddigon agos, ymaflodd Ann yn ei law ef, gan adrodd y geiriau hyn, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd, &c.. ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll" drosodd amryw weithiau gyda nerth a goleuni mawr, nes yr oedd y llanc yn delwi ac yn wylo. Ymaflodd un arall or merched yn llaw llanc arall, gan adrodd y geiriau hyny, "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" gan eu hadrodd amryw withiau gyda'r cyffelyb nerth a goleuni; a'r canlyniad a fu i'r llanciau fyned ymaith dan wylo yn lle gwawdio. Adroddwyd yr hanesyn hwn gan un ag sydd eto yn fyw, ag oedd yn y lle ar y pryd.

Llawer tro cyffelyb i'r troion uchod a fu, pa rai nid ydynt mewn coffadwriaeth fanylaidd yn bresennol. Wrth wrandaw pregeth yn ei chartref un prydnawn Sabboth, torodd allan mewn gorfoledd, gan adrodd y geiriau canlynol gyda llewyrchiadau tra thanbaid a grymus—"Y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd." Ac ar ddyledswydd deuluaidd y noswaith hono, torai allan mewn modd rhyfeddol, gan adrodd y geiriau uchod drachefn a thrachefn, a dywedyd hefyd drachefn a thrachefn, "Arglwydd gwerthfawr!" Yr oedd y fath amlygiadau o fawredd Daw yn tywynu i'w meddwl hyd onid oedd geiriau yn pallu, a iaith yn methu gosod allan olygiadau ei meddwl.

Y mae o Ddolwar Fechan i Bont Robert ynghylch pedair milltir o ffordd; a byddai yn aml o un-ar-ddeg i hanner nos cyn y cyrhaeddent adref. Er hyny nid aent i'w gorphwysfa heb gadw addoliad teulaaidd. Ni byddai y teulu crefyddol hwn yn esgeuluso moddion na chanol dydd na nosweithiau gwaith, ond yn unig yr hyn oedd anghenrheidiol i warchod y ty, a hyny yn rheolaida bawb yn ei dro. Yn y dyddiau hyny yr oedd cyfarfodydd gweddio yn cael eu cadw yn holl addoldai y Methodistiaid am naw o'r gloch bob boreu dydd Mercher, yn achos y rhyfel blin oedd rhwng Brydain a Napoleon Buonaparte a'i bleidwyr. Yr oedd amgylchiadau y deyrnas yn hyn yn cael lle mawr iawn ar feddylian Ann; a byddai yn rhagori ar y cyffredin yn ei dull gafaelgar yn ymbil ar Arglwydd y lluoedd yn yr achos hwn. Bwriadodd Ann unwaith ysgrifenu dydd-lyfr, i gadw coffadwriaeth o'r ymweliadau a'r profiadau a fyddai yn gael; ond yn lle cyflawni y bwriad hwnw, dechreuodd gyfansoddi pennillion a hymnau, a phryd bynag y byddai rhywbeth neillduol ar ei meddwl, deuai allan yn bennill o hymn. Nid ysgrifenodd hi ond ychydig o honynt, ond adroddai hwynt i'r forwyn grybwylledig, a dymunai arni eu canu, i edrych a ddeuent ar y tônau; ac oddiar ei chof hi daeth y nifer fwyaf o honynt i wybodaeth gyhoeddus. Ysgrifenydd y cofiant hwn a'u hysgrifenodd, yn ol adroddiad R. H. o honynt, i'r diweddar Barch. Thomas Charles, o'r Bala, i'w hargraffu, er fod rhai o honynt wedi myned yn gyhoeddus o'r blaen, trwy fod rhai o'r pregethwyr a ddeuai i Ddolwar Fechan i bregethu wedi eu dysgu. Y mae ei hymnau a'i llythyrau yn ddrych tra eglur o ansawdd ysbrydol ei chrefydd.

Yna daw'r, llythyrau a w emyn nas cyhoeddasid o'r blaen, sef—

"Mae swn y clychau a chwarau."
"Cofia ddilyn y medelwyr."
"Pan oedd Sinai gynt yn danllyd."
"O na bai fy mhen yn ddyfroedd."
"Cofiwch hyn mewn stad o wendid."
"Y mae dyfroedd iachawdwriaeth."
"'A raid i'm sel oedd farmor tanllyd."
"Deffro, Arglwydd; gwna rymusder."
"Mi gerdda'n ara ddyddiau f'oes."

———————————

Y mae yr erthygl hon yn orgraff y Traethodydd. Dylwn ychwanegu nad oes ymgais at unffurfiaeth orgraff yn y llyfr hwn. Codwyd pob peth, hyd yr wyf yn cofio, o ysgrif a llyfr yn union fel y maent, oddigerth atalnodau. Yr wyf yn diolch i reithor Llanfihangel am gydmaru'r dyddiadau a'r rhai sydd yn llyfrau'r eglwys; ac i Mr. J. Glyn Davies am gywiro copi gymerais o lythyr Ann Griffiths bymtheng mlynedd yn ol.

Nodiadau

golygu
  1. O Ben llys y symudwyd yr achos i Bont Robert, yr hyn a fu yn raddol yn y blynyddoedd 1795 a 1796. Yn y gwanwyn o'r flwyddyn 1795, dechreuodd diwygiad grymus yn Pont Robert.
  2. Gwel ei Gofiant yn niwedd Cofiant E. Griffiths
  3. Phil. i. 21