Gwaith John Hughes/Ol-ysgrifen

Cofiant Ann Griffiths Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Wedyn daw a ganlyn

OL-YSGRIFEN.

Anfantais fawr a gafodd yr ysgrifenydd wrth ysgrifenu y cofiant hwn oedd fod tros ddeugain mlynedd wedi myned heibio er pan fu farw y gwrthddrych. Hyn a barodd nad allodd nodi yr amserau yn sicr a manylaidd;[1] ond gwnaeth oreu ag y gallasai wybod: ac yr oedd ganddo fwy o fanteision nag sydd gan neb arall ag sydd yn fyw yn bresennol. Wrth ysgrifenu y cofiant uchod, daeth hen agweddau pethau yr amser hwnw i'w feddwl, a hyny gyda dwys deimladau o hiraeth; a than y teimladau hyny cyfansoddodd y pennillion canlynol:—

Wrth gofio y profiadau
Fu yn y dyddiau gynt,
Pan ydoedd gorchwyliaethau
Yr Ysbryd Glan fel gwynt,
Yn gweithio'n anorchfygol
Mewn eglurhad a nerth,
I ddangos pethau nefol
Yn eu rhagorol werth.

Yr hen awelon hyfryd,
Y sŵn nefolaidd cry
Dan ddylanwadau'r Ysbryd.
Yn disgyn oddi fry,
Y canu a'r gorfoleddu,
Dyrchafu'r Iesu mawr,
Wrth gofio'r pethau hyny
Hiraethu'r wyf yn awr.

Wrth gofio y gyfeillach
Fu rhyngwyf lawer gwaith,
A rhai sy'n awr yn hollach,
A phur ar ben eu taith;
Yr ydwyf yn hiraeth
Am gael f'addfedu'n llawn,
I fyned at y cwmni
Sy'n canu'n beraidd iawn.

Cael mynd i weled Iesu,
A hyny fel y mae,
I hyfryd orfoleddu,
O gyrhaedd pob rhyw wae,
Ac aros yn wastadol,
Dragwyddol gydag ef:
Bod ar ei ddelw'n hollol
Rhyfeddol iawn yw'r nef!



Nodiadau

golygu
  1. Ond cydmaru y Cofiant a'r rhagymadrodd i Waith Ann Griffiths, gwelir fod rhai o ddyddiadau John Hughes yn anghywir. Wrth ysgrifennu'r emynnau i'w cyhoeddi, tybed iddo ddibynnu'n hollol ar gof ei wraig, R. H., ac anghofio am yr ysgriflyfrau ysgrifennodd pan oedd Ann Griffiths yn fyw?