Gwaith John Thomas/Dechreu Pregethu

Newid Enwad Gwaith John Thomas

gan John Thomas, Lerpwl

Cyfarfod Llanberis

IX. DECHREU PREGETHU.

Yr oedd lle bychan yn agos i ben Pont Menai, yn sir Gaernarfon, lle yr arferai nifer o aelodau perthynol i eglwys Ebenezer, Bangor, gyfarfod; a deuai rhai o aelodau Siloh, Porth Dinorwig, yno hefyd. Henglawdd y gelwid ef. Tŷ bychan, cyffredin, llawr pridd, a llawer a ddirmygwyd arno; ond cafodd llawer o'r saint wledd yno. Chwiorydd oedd yno gan mwyaf, ond deuai rhai brodyr o Fangor i'w cynorthwyo, ac weithiau deuai rhai o bregethwyr Bangor yno i bregethu, ac weithiau, yn yr wythnos, deuai Dr. Jones ei hun yno. Merch ieuanc o'r enw Jane Williams—merch yr Antelope, tafarn gerilaw—oedd prif gefn yr achos bychan, ac yr oedd ganddi am dano fawr ofal calon; a hi, ar ol hynny, fu y prif offeryn i gael capel Beulah, oblegid yr Henglawdd oedd gwreiddyn yr achos llewyrchus sydd yno.

Un nos lau ym mis Awst, 1839, dywedodd Dr. Jones wrthyf fod yn rhaid i mi fyned i Henglawdd y nos Sabboth canlynol i bregethu, ac yn ddinag ufuddheais. Daeth nifer o frodyr o Fangor gyda mi. Pregethais oddiar y geiriau yn Salm xciii. 1,-"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, Efe a wisgodd ardderchawgrwydd, gwisgodd yr Arglwydd nerth ac ymwregysodd, a'r byd a sicrhawyd fel na syflo." Dechreuais yn ddigon uchel beth bynnag; ond yr oedd y brodyr oedd y Dr. wedi eu hanfon gyda mi, i ddwyn tystiolaeth iddo, wedi eu mawr foddhau. Yr oeddwn lawer gwaith cyn hynny wedi bod yn dyweyd ychydig oddiar adnodau mewn cyfeillachau, ond dyna y tro cyntaf i mi bregethu yn ffurfiol. Cyn pen pythefnos daeth cais o Siloh, Porth Dinorwig, ar i mi fyned yno i bregethu; a phregethais yno am ddau a chwech. Pregethais yr un bregeth ag yn Henglawdd am ddau o'r gloch; a'r hwyr oddiar Jer, xxii. 29,—"O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Pregethais hefyd mewn ty annedd, a elwid Tafarn y Grisiau, ryw noson waith ymhen rhyw wythnos ar ol hynny, oddi ar Heb. iv. 2—"Canys i ninnau y pregethwyd yr Efengyl megis ag iddynt hwythau, eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru a ffydd yn y rhai a'i clywsant". Dyna yr unig dair pregeth oedd gennyf wrth gychwyn allan. Yr oedd y ddwy gyntaf yn ddidramgwydd i bawb, ond yr oedd y drydedd yn cymeryd golwg eangach ar drefn yr Efengyl nag a oddefai llawer yn y dyddiau hynny, a bum mewn helbul fwy nag unwaith o'i herwydd.

Yn anffodus, yr oedd Dr. Jones allan â'r rhan fwyaf o weinidogion y Sir. Nid oeddynt hwy yn dyfod ato ef, ac nid oedd yntau yn myned atynt hwythau. Nid yw yn perthyn i mi ymholi i achosion yr anghydwelediad rhyngddynt. Rhyngddo ef a Mr. Williams (Caledfryn) y dechreuodd, a chymerodd y rhan fwyaf o'r gweinidogion blaid Caledfryn. Ffurfiwyd yn sir Gaernarfon fath o Undeb Sirol a elwid y Connexion, a ffurfiwyd rheolau lled fanwl a chaeth iddo, rhy gaeth yn ddiau i Anibyniaeth, a mynnai Caledfryn a'i blaid eu cario allan i'r llythyren, ond ni fynnai Dr. Arthur Jones ymostwng iddynt. Ymyrrid a'i ddull ef o gario yr achos ymlaen, ac oblegid nad oedd yn gweithredu ym mhob peth fel y gweithredai mwyafrif yr eglwysi Anibynnol, cyhoeddwyd nad oedd yn Anibynnwr, na'i eglwys yn eglwys Anibynnol; pan mewn gwirionedd na bu erioed weinidog ac eglwys mwy Anibynnol; yn wir, rhy Anibynnol oeddynt. Ymyrrid a'i ddull o dderbyn aelodau a chodi pregethwyr. Gwnaed rhywbeth pur debyg i ysgymundod arno ef a'i bobl o gyfundeb eglwysi sir Gaernarfon, o leiaf, felly yr edrychai ef ar y peth. Yn sicr, ni bu yn yr enwad weinidog mwy gormesol na'r hyn oedd Caledfryn yn y cyfnod hwnnw. Cariai y cwbl ymlaen â llaw gref, a phan gofir nad ydoedd ond dyn o dan ddeugain oed y mae yn syndod pa fodd y goddefid y fath drahausder ynddo. Ond dynion ieuangach a gwannach nag ef oedd y rhan fwyaf o'i gefnogwyr, ac am yr ychydig nifer oedd yn hynach nag ef, yr oedd yn well ganddynt adael iddo na myned i ymryson ag ef. Yn yr ystad yma ar bethau, edrychid ar bawb o Fangor yn wrthodedig, ac ni dderbynnid hwy ond i ychydig o eglwysi. Yr oeddwn wedi deall, yn bennaf trwy Ieuan Gwynedd, pa fodd yr oedd pethau yn sefyll, ac yn gwybod hefyd fod teimlad mwyafrif y gweinidogion y tuallan i sir Gaernarfon yn ffafr Dr. Arthur Jones. Nis gallaswn i help o'm cysylltiad ag eglwys Bangor, a theimlwn fod yn arw os oedd yn rhaid i mi ddioddef oblegid unrhyw ddrwgdeimlad a allasai fod at fy hen weinidog. Penderfynais fyned i ymgynghori â Mr. Samuel, Bethesda, a Mr. Griffith, Bethel, y ddau weinidog agosaf i Fangor. Cynghorai Mr. Samuel fi i fyned ymlaen heb gymneryd arnaf wybod dim am yr anghydwelediad, a phregethu ymha le bynnag y ceisid gennyf, a threfnu i fyned o Fangor mor fuan ag y gallwn i'r ysgol, neu i gadw ysgol. Dangosodd tuag ataf garedigrwydd mawr, a rhoddodd i mi bob cefnogaeth. Cefais Mr. Griffith, Bethel, yr un mor garedig, a chynghorodd fi yn gyffelyb, ac amlygodd teimladau mwyaf parchus at fy hen weinidog, er y deallais fod y ddau am gadw ar delerau da gyda phob plaid, ac yn enwedig nad oeddynt am fyned yn erbyn mwyafrif gweinidogion y sir. Dywedai Mr. Griffith, Bethel, wrthyf fod Cyfarfod Gweinidogion i'w gynnal yn Jerusalem, Llanberis, yr wythnos ddilynol, ac y byddai cryn nifer o weinidogion y sir yn bresennol, ac y cyflwynai efe fi i'w sylw. Aethum i Lanberis i'r cyfarfod, Medi 11, 12, 1839. A chan mai dyma y cyfarfod cyntaf erioed ynglŷn â'r Anibynwyr i mi fod ynddo, rhoddaf fanylion lled helaeth am dano.