Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Aros tan ddeg

Dyw mam ddim hanner boddlon Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Ianci

AROS TAN DDEG

PETH llesol yw tamaid o ginio,
Neu ddysglaid ddifyrrus o dê,
Mae'n eithaf cael ffrynd i ymgomio,
A swper sy'n iawn yn ei le;
Ond os gwnewch chwi ginio bryd swper,
A swper rhwng deuddeg ac un,
Bydd wermod yn dilyn y pleser,
A'r cyfan yn troi yn ddi-lun ;
Aroswch tan ddeg,
Siaradwch tan ddeg,
Ond peidiwch bod allan yn hwyrach na deg.

Mae'n arfer gan lawer dyn diffaith
I godi o'i wâl erbyn nos,
A threulio ei ddiwrnod mewn noswaith
Gydrhwng y gyfeddach a'r ffos;
Y gweithiwr sy'n llawer mwy dedwydd,
Yr hwn ar bob adeg a geir,
Yn codi'r un amser a'r hedydd,
Yn cysgu'r un amser a'r ieir;
Cewch aros tan ddeg,
A siarad tan ddeg,
Ond peidio bod allan yn hwyrach na deg.

Aeth John i ryw ginio un noson,
Lle 'roedd ei gyfeillion i'w cael,
Bu yno uwchben y danteithion
Yn bwyta ac yn yfed yn hael;

Wrth gychwyn addawodd o ddifri,
I'w wraig y doi adref fel dyn,
Ond welwyd mo John gyda Mary
Nes ydoedd rhwng deuddeg ac un,
'N lle 'madael cyn deg,
Dod adref cyn deg,
A pheidio bod allan yn hwyrach na deg.

'Mhen wythnos neu lai fe gadd Mari
Ei gwahodd i dê y prydnawn,
A gwisgodd am dani mor deidi,
Er mwyn cael ymddangos yn iawn;
Wrth adael ei gŵr, tystiai Mari
Do'i adref yn hynod o glau,
Ond welwyd dim hanes am dani
Nes ydoedd mewn chwarter i ddau ;
(Mi leiciwn i weld pob gwraig ai allan):
Yn cofio cyn deg
Ddod adref cyn deg,
A pheidio bod allan yn hwyrach na deg.

Hydref 11, '72.