Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Dyw mam ddim hanner boddlon
← Y Niagara | Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 Caniadau gan Richard Davies (Mynyddog) Caniadau |
Aros tan ddeg → |
'DYW MAM DDIM HANNER BODDLON."
MAE rhai yn dweyd fod canu cân
A chariad yddi hi
Yn groes i bob moesoldeb glân,
Ond beth feddyliech chwi ?
'Rwy'n credu'n siwr os tynnwch chwi
Y cariad pur a ffôl
O'r galon ddynol, serchog, gu,
Fydd yno ddim ar ol;
(Ac mae rhai yn fy meio innau am son am gariad
yn rhai o fy nghaneuon, ac am ddweyd y gwir),—
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
Na, na, prin iawn, er mor anhawdd yw,
'Dyw mam ddim hanner boddlon.
Mi welais ferch flynyddau'n ol,
A'i hoffi 'roeddwn i,
Ac yn fy serch a'm ffwdan ffôl,
Gofynnais iddi hi
A gaem ni fynd i'r llan ein dau
A phrynnu modrwy fach,
Ac wedi meddwl awr neu ddwy,
Atebai'n ddigon iach,— .
"Wel, Dic bach, gan nad wyt ti yn werth mo'r
canpunt yn y flwyddyn, a chan nad allwn innau fyw
heb o leiaf ddau gant yn y flwyddyn, ac hyd nes
dewch chwi yn werth hynny, Dic bach,
"Dyw mam ddim hanner boddlon," &c.
Dechreuais weithio fel y cawr,
A gwella yn y byd,
A mynd i fyny 'n lle i lawr,
Nes cael y swm ynghyd
Pan glywodd Elen am y peth,
Cydgwrddem yn y glyn,
A gofyn wnai â'i dwylaw 'mhleth,
Y geiriau serchog hyn,—
Wel, Dic bach, ’rwy'n deall eich bod yn werth llawer mwy o arian yn
awr na phan ddarfu i ni gwrdd ddiweddaf, a beth am y pwnc oeddech chwi yn ei———?"
Wel," meddwn innau, gan fy mod wedi gwella yn fy sefyllfa,
"'Dyw mam ddim hanner boddlon," &c.
'Rwy'n hoffi'r ferch a'r galon bur,
Ple bynnag bo y fûn,
A fedr garu fel y dur
Er mwyn y dyn ei hun,
Ac ’rwy'n cashau â pherffaith gâs
Bob hoeden ffôl, ddi-les,
A chalon arwynebol, gâs,
Yn caru dim ond pres.
Ac mi fuaswn i yn leicio rhoddi y ladies ar eu
gocheliad rhag iddynt ddweyd unwaith yn ormod,—
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
'Dyw mam ddim hanner boddlon,
Na, na, prin iawn, er mor anhawdd yw,
'Dyw mam ddim hanner boddlon.