Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Cofiwch Beidio Dweyd

Rhowch Eich Hun Yn Ei Le Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Gŵr a Gwraig

COFIWCH BEIDIO DWEYD

RWY'N mynd i ddwyd rhyw chwedl fach
Ar Mistar Hwn a Hwn
Nid oes un dyn trwy Gymru iach
A ŵyr y ffaith, mi wn;
'Roedd Sion Tŷ Croes yn dweyd wrth Sian,
A Sian yn dweyd i mi,
'Rwyf finnau'n awr mewn pill o gân
Yn dweyd y peth i chwi.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.

Bum i mewn ffair ar ben y mis,
Yn ceisio prynnu buwch,
Pan oedd y gwartheg braidd yn îs,
A'r merched braidd yn uwch;
Mi welais Miss o'r fan a'r fan,
A Mr. Hwn a Hwn,
Yn mynd i dafarn fwya'r llan
Am hanner diwrnod crwn.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,
Cofiwch beidio dweyd.

Mae nhw yn dweyd fod Mr. Pugh
Yn siarad â Miss John,
A bod y ddau ddydd Llun yn Crewe
Yn edrych modrwy gron;

Mae nhw yn dweyd fod math o wanc
Ar bwrs Miss Hughes y Plas,
I godi arian yn y Banc,
Gael gown o sidan glâs.
Ond er mwyn popeth peidiwch dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.

Mae nhw yn dweyd fod Mr. Breese,
Gweinidog Capel Mawr,
Ar ryw ddydd Sadwrn yn y mis
Yn cysgu'n llafn ar lawr;
Yn ol pob hanes 'ddyliwn i,
Mae'r chwedl yn eithaf clir,
Ond yw e'n resyn, meddwch chwi,
Os yw y stori'n wir ?
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi, —
Cofiwch beidio dweyd.

Yn mhell y bo y giwaid gâs
Sy'n chwilio am ryw wall,
Mae pawb o'r teulu gyda'u tras
Yn dod o gyff y fall;
Mae'u hen galonnau fel y pair
Yn berwi chwedlau gwneud,
Mae gwenwyn aspaidd dan bob gair
O'r cofiwch beidio dweyd.
Ond cofiwch beidio dweyd,
O ran mod i
Yn dweyd i chwi,—
Cofiwch beidio dweyd.