Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Rhowch Eich Hun Yn Ei Le

Fy Aelwyd Fy Hun Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Cofiwch Beidio Dweyd

RHOWCH EICH HUN YN EI LE

MAAE llawer yn beio a llawer yn lladd,
A llawer am weled rhyw wall,
A llawer yn edrych yn groes ar bob gradd
Oherwydd rhyw fai ar y llall;
Os teimlwch chwi awydd i feio rhyw ddyn,
A gosod eich llath arno fe,
Y ffordd i chwi brofi eich rhinwedd eich hun
Yw gosod eich hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Mewn 'Steddfod gynhaliwyd yn rhywle ryw ddydd
Bu'r beirniad yn barnu y gwaith,
Ond cafodd rhyw gorgi cyn diwedd y dydd
I gyfarth am chwe thro neu saith;
Peth hawdd ydyw lluchio y beirniad o bell,
A bwrw y bai arno fe,
Ond hwyrach mai prin gwnae'r grwgnachwr yn well
Pe rhoddai ei hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Aeth llencyn i garu rhyw eneth go lân,
A dylodd am dani'n y fan,
Ond troi yn lled surllyd wrth hwnnw wnae Sian,
Yn lle mynd i'w ganlyn i'r llan;

Aeth yntau i ddwndro am grogi ei hun,
Neu osod ei ben ar rêl—wê;
Cyn meddwl am chwerthin am ben y fath un,
Gosodwch eich hun yn ei le.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Os oes yma eneth yn wenwyn i gyd
Wrth weled fod Ann gyda John,
A'i braich yn ei fraich, ac yn wenau bob pryd,
Ac yntau yn edrych mor llon,
Os ydyw yn dweyd nad yw John ddim yn ddyn,
Ac Ann yn gywilydd i'r dre',
Er hynny 'rwy'n credu yr hoffai y fûn
Gael gosod ei hun yn ei lle.
Rhowch eich hun yn ei le,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn ei le.

Os beiwch chwi 'gethwr am bregeth go gul,
Os beiwch chwi 'ffeiriad y plwy,
Os beiwch chwi Tomos am saldra dydd Sul,
Neu'r doctor am agor y clwy,
Os beiwch chwi finnau ar ddu ac ar wyn
Am ganu'r fath gân mewn fath le,
Y ffordd i chwi wella ar ganu fel hyn
Yw gosod eich hun yn fy lle.
Rhowch eich hun yn fy lle,
Go brin yr un fath,
Fydd mesur eich llath,
Os rhoddwch eich hun yn fy lle.