Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Os Du Yw'r Cwmwl
← Dychymyg, Heda | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Cwsg, Filwr, Cwsg → |
OS DU YW'R CWMWL.
(Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street East, Llundain)
Os du yw'r cwmwl uwch eich pen,
Wrth golli'ch anwyl briod,
Os nad oes rhwygiad yn y llen
I weld pa beth sydd uchod;
Mae Tad y gweddwon eto'n fyw,
A'r cwmwl a symuda,
Cewch weld fod gwenau wyneb Duw
Tu ol i'r cwmwl yna.
Y teimlad ddwed,—"Mae niwl y glyn
Yn oeraidd i'm hanwylyd,
Mor gâs i serch yw'r amdo gwyn,
Yr arch, a phridd y gweryd:"
Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd
Draw, draw, i'r nefol hafan,
Lle mae eich priod byth mewn bedd
Mor bur a Duw ei human.
Gofyna teimlad eto'n brudd,—
"Beth wna'r amddifaid heddyw?
Pwy sycha'r deigryn ar y rudd
Ar ol y fam fu farw?"
Ond yn y nef uwch ben y glyn
Mae aur lythrennau telaid
Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,—
"MAE DUW YN DAD AMDDIFAID."
Os ydyw cwpan galar du
Yn llawn o chwerw wermod,
Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,—
Cewch fêl cyn dod i'r gwaelod;
Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw
Yn llawn o lygaid goleu,
A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw
Y diwedd cyn y dechreu.
Mae'r holl sirioldeb yn y nef,
A'r dagrau ar y ddaear,—
Mae yno'n foliant "Iddo Ef,"
Ac yma'n llawn o alar;
Mae hwn yn fyd i gario'r groes,
Mae yno'n gario'r goron,
Mae'r wylo i lawr ym myd y loes,
A'r gân tu hwnt i'r afon.
Chwef., 1875.