Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Cwsg, Filwr, Cwsg

Os Du Yw'r Cwmwl Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ar Ganol Dydd

CWSG, FILWR, CWSG

("Rest, warrior, rest,"—SIR W. SCOTT)
(Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab).

Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur,
Cwsg yr hûn na ŵyr am ddeffro,
Darfu tynnu'r cleddyf dur
Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro;
Taena dwylaw duwies hedd
Esmwyth flodau ar dy galon,
Ac o gylch dy dawel fedd,
Clywir adsain cân angylion;
Nid oes gyffro yn dy fron,
Darfu rhu a thwrf magnelau,
Ond mae ar dy wyneb llon
Gysgod adgyfodiad golau.

Nodiadau golygu