Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Ar Ganol Dydd

Cwsg, Filwr, Cwsg Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Rhywun

AR GANOL DYDD

(Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol)
"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."—MARC xiv. 8.

Ar ganol dydd ei bywyd cu,
Ar ganol llwybr crefydd,
O ganol serch cyfeillion cu,
O ganol cartref dedwydd;
Ynghanol defnyddioldeb llawn,
Ar ganol gwaith ei bywyd,
Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn
Ynghanol cylch y gwynfyd.

Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,—
Y glyn rhwng byd a bywyd,
Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn
Heb brofi fawr o'u hadfyd;
Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw
I'r sawl mae'r Iesu'n garu,
Ond cysgod aden dyner Duw
Yn dod i'w diogelu.

Na choder colofn ar ei bedd,—
Na cherfier gair i'w chofio,
Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd
Yn ddisglair byth fan honno;
Ac ar y bedd yn alar byw,
Y tlawd ollynga berlau,
Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw
Ei hunan yn y dagrau.
Ion. 20, 1873.

Nodiadau

golygu