Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Rhywun

Ar Ganol Dydd Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ysgydwad y Llaw

RHYWUN

(O'r Saesneg)

Mae rhywun yn dod bore fory,
Ond pwy—eich gwaethaf i ddweyd,
'Rwy' am fynd i'w gwrdd bore fory,
Fy nghalon ddwed rhaid i mi wneud;
Nid ydyw yn unrhyw berthynas,
Nid oes ganddo gyfoeth na chlôd,
Ond rhywun sy'n dod bore fory,
Gwyn fyd na bae fory yn dod.

Ces lythyr ers echdoe gan rywun,
Agorais y sêl yn y fan,
Yn hwnnw fe sonnir gan rywun
Am gariad, a modrwy, a llan;
Mae'i eiriau'n felusach na'r diliau,
A'i lygad fel awyr lâs, glir,
Mae'n dwedyd y câr fi hyd angeu,
A gwn nad all ddweyd ond y gwir.

Mae rhywun yn dod bore fory,
Mae'n sicr o ddod yn ddi-feth,
Mae rhywun a finnau'n priodi,
Ond pwy ydyw rhywun yw'r peth;
Ie, pwy ydyw rhywun yw'r cwestiwn,
Mae'i ruddiau cyn hardded a'r rhôs,
Os daw bore fory, mi fyddaf
'Run enw a rhywun cyn nos.

Nodiadau

golygu