Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Ysgydwad y Llaw
← Rhywun | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Gruffydd ap Cynan → |
YSGYDWAD Y LLAW
(Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.)
Bum yn ysgwyd fy llaw â llawer,
A'u gafael yn oer ddi-fraw;
Nid ydoedd y galon gynnes
I'w theimlo yn dod i'r llaw;
Mae ereill ymron ag ofni
I'w llaw gael llychwino'i gwawr,
Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd
A galedwyd gan lafur mawr.
Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner,
Pe buasai y rhôs di-ail
Rhwng bysedd y llaw wen honno
Ni buasai yn siglo'i ddail;
Ond teimlais guriadau'r galon
Yn rhedeg i ben pob bŷs,
A theimlais onestrwydd yno
Fel yn gwefrio y fron ar frys.
Fe ddywedir fod iaith y galon
I'w darllen ar ruddiau dyn,
Ac y saetha o'r llygaid gariad,
Sydd yn gryfach na nerth ei hun;
Ond gwelais fod twyll mewn gwenau,
Edrychant yn dêg o draw,
Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo
Erioed pan yn ysgwyd llaw.