Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Anerchiad Llywelyn

Er Undyn a Phopeth Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Ferch o'r Frongaled


ANERCHIAD LLYWELYN
I'w fyddin foreu brwydr Buallt, 1282.
(Efelychiad o "Scots wha hae" Burns).

CHWI Frythoniaid dewr fu'n gwaedu
Dros eich gwlad, dros ryddid Cymru,
Croeso'n awr i'ch gwaedlyd wely
Neu anrhydedd rhyth!
Dyma'r adeg wedi dyfod!
Dacw'r gelyn,—Gymro cyfod!
Lladd heb arbed yn dy arfod
Tra bo ynnot chwyth!
Dacw'r dreisiol giwed!
Saeson a chaethiwed!
Awn yn llu ymlaen yn hy'
Heb ofni dim o'u niwed;
Pwy i Walia fydd yn wadwr?
Pwy all lenwi beddrod bradwr?
Nid Llywelyn eich cydwladwr,
Nage, O filwyr byth!

Gan eich gwlad a'i gorthrymderau,
Gan eich meibion mewn cadwynau,

Gyda phur-waed ein calonnau,
Prynnwn eu rhyddhad!
Pwy dros ryddid na ddadweinia
Gleddyf anibyniaeth Gwalia?
Pwy dan lyw y faner yma
Nad ymruthra i'r gad?
Wŷr, cymerwn galon,
Byddwn wych ac eon,
Cwympa trais, pan syrthio'r Sais,
Medd llais cydwybod Brython;
Rhyddid Gwynedd sydd yn galw
Am ewynau nerth y derw,
Henffych angeu, os mai marw
Wnelom dros ein gwlad.

Nodiadau

golygu