Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Er Undyn a Phopeth

Beddau y Teulu Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Anerchiad Llywelyn


ER UNDYN A PHOPETH.

(Cyfieithiad o gân Burns, "For a' that.")

PWY byth na feiddia fod yn dlawd
Os bydd ei dlodi'n onest?
Pwy ond y llwfr sy'n ofni gwawd
Dirmygus feibion gloddest?
Er undyn a phopeth,
Ein dinod waith a phopeth,
'Dyw'r enw ond yr argraff-lun,
Y DYN yw'r aur er popeth.

Beth os mai uwd ein cinio prin?
Beth os mai llwm ein brethyn?
Ca'r ffwl ei wisgoedd heirdd a'i win,
Ond nid dyn mo'no wedyn;
Er undyn a phopeth,
Eu coegni gwych a'u popeth,
Mae'r dyn tlawd, os gonest yw,
Yn uwch ei ryw er popeth.

'Dyw'r 'sgogyn acw yn ei blas,
Er sythed ar ei sawdl,
Ac er mor aml gwenau'i was,
Ond penbwl wedi'r cwbwl;
Er undyn a phopeth,
Ei ruban, sêr, a'i gwbwl,
Y meddwl anibynnol chwardd
Mewn gwawd uwchben y cwbwl.

A'i anadl gall brenin greu
Marchogion ac arglwyddi,
Ond gwneuthur un dyn gonest sy
Ymhell uwchlaw ei allu;
Er undyn a phopeth,
Eu hurddau gwag a'u cwbwl,

Mae synwyr pen, a haeddiant bron,
Yn urddas uwch na'r cwbl.

Gweddiwn ninnau am y dydd
Pan fyddo gwir ragoriaeth
Drwy eang gyrrau daear rydd
Yn meddu y flaenoriaeth;
Er undyn a phopeth,
Mae'r dydd yn dod drwy bopeth,
Pan bydd trigolion byd fel un
Yn frodyr cun er popeth.

Nodiadau

golygu