Gwaith S.R./Dinystr Byddin Sennacherib

Cyfarchiad ar Ŵyl Priodas Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Gweddi Plentyn

Cân Byron

DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB

(Cyf. o "The Destruction of Sennacherib" Byron)

O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,
Ymdorrai i'r gorlan er difa y praidd;
A'i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,
Wrth hulio glyn Salem, a'i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o'r bron
Fel llewyrch sêr fyrddiwn ar frig y werdd don;
A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,
Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,
A welid fel coedwig dan flodau a dail;
Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,
Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,
Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,
Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,
Mor oer ac mor farw a delw o bridd.

Y ffrom farch ddymchwelwyd.—Yn llydan ei ffroen,
Mae'n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,
A'i ffun oer o'i amgylch fel tywyrch o waed:
Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.

Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,
A'r llaid ar ei harddwisg, a'r rhwd ar ei arf:
Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,
Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.
Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thâl,
Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:
Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,
Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i'r bedd.