Gwaith S.R./Y Twyllwr hudawl

Y fenyw wenieithus Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Darostyngiad a Derchafiad Crist

Y TWYLLWR HUDAWL

Mewn hyfryd le o gyrraedd sŵn y byd,
Y trigai'n llon forwynig deg ei phryd;
Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad,
Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.

Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith
Pêr-lysiau'r maes a dagrau'r bore wlith,
Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych,
I fritho'n hardd ei swp o flodau gwych,
A phan adseiniai lais yr eos fwyn,
Gan heinif ddawnsio'r gân o dwyn i dwyn,—
O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd ar g'oedd,
Pa un ai dynes ai angyles oedd.

Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,
A buan ffodd y gân o'i mynwes brudd.
Un hwyr, gan wisgo gwên, rhyw dwyllwr ddaeth
I geisio'i dal mewn hudawl serch yn gaeth.
Wrth weld ei wên, ei chalon dyner wan,
Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:
A'r gelyn cas,'nol ei handwyo hi,
Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.

Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,
A'i galon falch fel darn o garreg aeth;
Dan erchyll reg—gan droi ei wyneb draw—
Ei gwthio wnaeth o'i dŷ i'r gwynt a'r gwlaw;
A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu'n ffôl,
Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol.

Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,
Ei baban gaed yn farw ac yn oer;
A'i ddagrau'n iâ tryloew ar ei rudd,
A'i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.

Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan,
A grwydrai'r dydd yn brudd o fan i fan;
A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn
Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:
Ing ar ol ing drywanai'i mynwes brudd,
Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.


Yn glaf neu iach, âi allan ar bob hin,
Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,
Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,—
"Fy chwaer yw hon, a daw i wylio'm bedd."
Ni soniai byth am gâr, na mam, na thad,
Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad;
Ymddiddan wnâi, bob dydd, â'r gorsen grin,
Heb deimlo dwys effeithiau'i chystudd blin.
Nes marw dan oer wlith y niwlog nen,
Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.
O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,
Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;
A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn rhydd,
Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.

Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd,
Ei thad, dan guro'i fron, felldigai'r dydd
Y gwelodd hi o'i dŷ yn gorfod ffoi,
Mewn cyflwr gwan, heb wybod p'le i droi:
A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,
Ddialydd llym â'i gleddyf yn ei law;
A'i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lân,
A'i wae'n seliedig mewn llyth'renau tân.