Gwaith S.R./Y fenyw wenieithus

Y creulondeb o fflangellu benywod Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Y Twyllwr hudawl

Y FENYW WENIEITHUS

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni'r hwyr,
Pan guddid gwên yr haul dan orchudd llwyr,
Yn nrws ei thŷ, yn denawl wenu'n llon,
Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,
Y fenyw deg wenieithus welaf draw,
Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,
Nes canfod llanc mwyn hardd-dêg, ond heb bwyll
Na deall da i ochel hudawl dwyll.

Gan ddal ei law, hi a'i cusanodd ef,
Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,
Dywedai'n hyf,—"Roedd im' aberthau hedd,
Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:
Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,
A brysiais heno'n llon i'th gyfarch di:
Fy ngwely drwsiais â cherfiadau gwych,
Ac â sidanaidd lenni teg eu drych;
Mwg-derthais ef ag ennaint peraidd iawn,
O aloes, myrr, a sinamon, mae'n llawn.
Tyrd gyda mi,—ni chawn byth gyfle gwell

I garu'n gu,—mae'r gŵr yn awr ymhell:
O arian cymerth godaid yn ei law,
Ac ar y dydd amodol adref daw.
Mae dyfroedd cêl fel gwin i'r galon brudd,
Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd."

A'i geiriau teg, ei droi a'i ddenu wnaeth,
Nes cael i'w rhwyd ei galon ffôl yn gaeth;
Fel ych yn fud i'r lladdfa aeth yn glau,
Neu fel yr ynfyd cyn i'r cyffion gau:
Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,
Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddôr.

Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,
Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,
Nac yn ei dŷ, ni welwyd mono mwy;
Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.
Ei dad, mewn dagrau, ro'i ei ben dan gudd,
A'i fam, wrth riddfan, rwygai'i mynwes brudd.

Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,
Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;
Porth uffern yw ei haddurnedig dŷ,
A'i ffordd i gell oer angau'n arwain sy;
Gweu maglau mae i ddal eneidiau'n gaeth
Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;
Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffôl
Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.