Gwaith S.R./Y creulondeb o fflangellu benywod

Cwynion Yamba, y Gaethes ddu Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Y fenyw wenieithus

Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD

A ysgrifennwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.

Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,
Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,
Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,
Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,
Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;
Heblaw ei harcholli o'r ddaear i'r ddwyfron,
Mae'r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Pan oeddit yn faban hi'th wasgai i'w mynwes,
A breichiau o'th amgylch, hi'th gadwai yn gynnes;
Rho'i gusan, dan wenu, i'th gadw'n ddiddanus,
Ac ar ei bron dyner hi'th sïai i orffwys:
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,
A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:
A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,
Sy'n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,
A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och'neidio,—

Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog
Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,
Mae'n clywed ei chwynion, mae'n cyfrif ei dagrau,
Mae'n codi i ddial—clyw'r daran yn rhuo—
Mae'n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,
Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.