Enw Duw Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
I Dduw (2)

XXI.

I DDUW.

YN Tad Sanctaidd, buraidd barch,
Duw unben, diau iawnbarch;
Yr hwn a all bob gallu,
Naf yr wyd yn y nef fry;
Sancteiddiol rasol ddi-rus,
Yw dy enw, Dduw daionus;
Deled i ni dy wlad, Naf,
Drwy achos Duw oruchaf;
Dy ewyllys heb gel a welon,
Iôr hael, ar y ddaear hon;
Fal y mae geiriau ar goedd,
Jawna Naf, yn y nefoedd:
Dyro i ni, dirion Naf,
Hoew ddawn Bôr, heddyw'n buraf;
Beunyddiol diboen weddi,
Moddion oll, a maddeu i ni
Yn dyledion aflonydd,
A rhown faddeuant yn rhydd,
I'r sawl wnaeth dystiolaeth syn,
Hirbwynt erioed i'n herbyn.
Nad, yr hael-Dad, yn gadaw,
O'th olwg i'r lle drwg draw;
Ymddiffyn, Dduw Frenin fry,
Cynnal ni bawb rhag hynny;
Amen, yn Tad cariadus.
Duw gwyn, a'th law ni'th lys;

Er mwyn dy un Mab a'i aberth
Byw Dduw nef, bydd i ni'n nerth;
O'i gadw naws gwna ysger,
Rhag uffern chwerw-wag offer;
Lle mae llys anwedduslan,
Diawliaid, cythreuliaid, a thân;
Satan goch, mae'n rhaid gochel,
Llwydd waith ni chynnyrch lle dêl,
Y llwdn a gais golledu,
Crybachog, crafangog fu;
Wynebwr brwnt anniben,
Corniog, danheddog hen;
Pryf anhawddgar dig, aruth'
Ag a gais i fantais fyth;
I ddwyn llawer o werin
I'r ffwrn lle telir y ffin;
Lle mae gwlad ddrwg i hagwedd,
Heb barch, heb gariad, heb hedd;
Ond ochain a dadsain dig,
Ar i gwarr awr ag orig;
E bwyntiodd Duw, nefoedd Naf,
Dan amod i hon ynnaf;
Erbyn y del arw boen du,
Siol diawl, i'r sawl a'i dylu:
Rhai mewn iâ ag eira gwyn,
A Duw Ne yn dwyn newyn;
A rhai mewn pydew drewllyd,
O flaen barn yn flin i byd;
Rhai eilwaith mewn diffaeth don,
Arw flin hwyl, ar flaen hoelion;
A rhai fydd chwerw a suddan',
Gwâl dig, mewn gwely o dân;
Rhai'n y pair anhap o wres,
A ffwrlwm brwd a fflam o bres.
Gwyr Iesu hael, garwa syd,
Uffern dinlom, ffwrn danllyd;

Arglwydd Crist, rhag ofn tristwaith,
Drych iawn gof, edrych yn gwaith;
Nad in wir bechaduriaid,
Gyrchu i hon rhag gwarchae haid;
Iesu cadarn, dod arnom
Dy law hael, da eli yw hon;
Rhag ofn cael dofn i haelwyd,
Uffern wael iawn, a'i ffwrn lwyd:
Dyro dy ffyrdd, hael wir-Dduw,
A'th iawn ddysg i'th ddynion, Dduw:
Rhag in wneuthyd, sobrfyd sen,
Fath naws dêl byth ni's dylen.
Hawdd i bob mab gydnabod,
Gywrain waith y gwir a'i nod;
A wnelo ddrwg, anial draith,
A geiff uffern gyff affaith;
A wnelo dda, anial ddewis,
A geiff nef heb goffa'n is;
Lle mae dawn lawn lawenydd,
A phawb yn dduwiol i ffydd;
Lle ceir wellwell y cariad,
A rhol deg gyda'r hael Dad;
Yno cael hael wehelyth,
Lle ni ddaw na glaw na gwlith,
Nag iâ, nag eira, nag ôd,
Na thymestl fyth i ymod;
Na digter ofer afiaith,
Na thrais twyll na thrist waith;
Ond pob llawnder per perawd,
Mewn ffydd, mewn cariad, mewn ffawd;
Pob cân, pob chwareu, pob cerdd,
Pob mawl wisg, pob melusgerdd,
Pob rhyw fath, pob rhai a fydd,
Yn orlawn o lawenydd;

Syched, niwed, na newyn,
Ni ad Duw i enaid dyn,
Pawb yn i rhif yn ifanc,
Heb dro, heb niwed, heb dranc;
Yno trigant, lwyddiant lu,
Oes oesoedd, yn llys Iesu.


Nodiadau

golygu