Gwaith Sion Cent/I Dduw (2)
← I Dduw | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
I Dduw a'r Byd → |
XXII.
I DDUW.(2)
Y GWR uwchben goruwch byd,
Goruchaf, a'n gwir iechyd,
A'n Ceidwad hoff, a'n Proffwyd,
A'n Duw o Nef, a'n Dyn wyd.
Hebod ni allwn rodiaw,
Na throi nag yma na thraw,
Na chael, er a drafaelien,
Na ffrwyth ar ddaer, na phren,
Na dyn byw, na da ni bydd,
Na lluniaeth na llywenydd.
Dewis goel, nid oes, Geli,
Un Tad oll, onid Tydi.
Mawr yn Arglwydd a'n llwyddiant
Y troist dy blaid tros dy blant,
Pan ddoethost, Aur Bost, i'r byd,
Gwnest gywydd a'r gras genyd;
Wedi'r afal droi Efa
Or bywyd hir a'r byd da,
A'i gyrru hi a'i gŵr hon
I dywyllwg fal deillion;
Ag i'r un gist gerwyn gau,
I plant a'i hepil hwythau;
Prynu wnaethost heb fostiad,
Prynu trwm a fu'r pryniad,
O adrodd drwy fodd a fu,
Pen brenin, poen o brynu;
Gwnai Suddas, cyn y soddi
'Difaru'n drwm Dy frad di;
A'r Iddewon ar ddeg air,
A thala'i Fab ddoeth-loew-Fair,
Dy rwymo dan grio'n grych,
Dy holi, Fab Duw gall-wych;
Rhoi am Dy ben, brenin,
Goron ddrain, bleth geirwon blin.
Y ddaear oll, da Wr wyd,
A grymodd pan goronwyd.
Dwy o'r hoelion, Duw helaeth,
I'th ddwylaw, i'th hoelio aeth;
A'r drydedd, o'r direidi,
Ai yn dy draed, un-Duw Dri.
Dy frath a roid yn Dy fron,
Un-Duw gwyl, yn dy galon,
Wrth weled pob caledi
Er enaid dyn arnad Di,
O Dduw gwyn, i briddyn brych—
Onid yw, O dewn i edrych?
Er dy gur a'th ddolurion
A'th friw a gefaist i'th fron,
A'th goron, a'th wirion waed,
A'th boen draw, o'th ben i'th draed—
Rho in rhag pob rhyw annerth,
Yr Iesu o Nef, ras a nerth;
Anfon, o'n holl ddrygioni,
Yma, Dduw Nef, madde i ni.