Gwaith Sion Cent/Rhagair
← Gwaith Sion Cent | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
Sion Cent → |
RHAGAIR.
HYD yn hyn, ni chyhoeddwyd yng Nghyfres y Fil neb o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg ond Dafydd ab Gwilym. Un rheswm am hynny ydyw mai cyfres i'r werin, nid cyfres i ysgolheigion yw'r gyfres; ac am hynny gwell, ar y dechreu, beth bynnag, cyhoeddi gwaith beirdd mwy diweddar, oherwydd eu bod, o ran iaith a mater a cnyfeiriadau, yn fwy dealladwy.
Ond yn awr ymddengys, ymysg cyfrolau ereill, rai o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg, y bymthegfed, a'r unfed ar bymtheg. Y mae dau reswm dros eu cyhoeddi.
Yn un peth, y mae gwerin gwlad, erbyn hyn, yn ddigon dysgedig i ddeall rhediad cywyddau'r canol oesoedd, os rhoddir hwy yn sillebiaeth y dyddiau hyn. Y mae arnynt awydd cael gwaith eu hen feirdd, oherwydd gwyddant mai ohonynt hwy y cafodd llenyddiaeth ddiweddar lawer o'i hysbryd.
A pheth arall, yr ydym ar fin pum canmlwyddiant marw Owen Glyndŵr. Dyrysodd rhyfel chwerw ei amcanion mawrion ef, a daeth cymylau duon dros ddydd y buasai ei fore'n llachar, ac yn llawn addewid oes newydd i grefydd, llenyddiaeth ac addysg. Hoff gan Gymry pob oes yw edrych i'r bore prydferth hwnnw.
Beth well, ynte, na chyhoeddi gwaith beirdd Owen Glyndŵr.
Dechreuir gyda Sion Cent.
Cymered y darllenydd amynedd efrydydd wrth ddarllen. Y mae'n wir fod yr ystyr yn dywyll yn ddigon aml, a'r geiriau yn anghywir, ac yn aneglur lle maent yn gywir, er pob chwilio a gofal. Bydd y nodiadau ar waelod y dalennau, a'r eirfa ar y diwedd, yn beth help. Cofier, hefyd, mai yr hen ffurf i sydd i ei, ac yn i ein.
Os rhaid mynd dros ambell gwpled, ie ac ambell dudalen, heb ei ddeall, na ofaler. Deallir mwy wrth geisio eu darllen yr ail waith. Os oes peth yn y llyfr na ddeallir y waith gyntaf, y mae llawer o ganu grymus a ddeallir, weithiau yn ein had goffa o Oronwy Owen, dro arall of Ann Griffiths.
Yr oedd Sion Cent ymysg ser y bore newydd. Ynddo ceir cip olygon ar y purdan a'r offeren a'r addoli Mair, ac ar lawer cyfrif y mae ei serch gyda'r hen grefydd. Ond gwel i'r dyfodol hefyd, gwel ddirywiad yr urddau cardod ac effaith andwyol golud ar grefyddwyr, hyd yn oed ar y "myneich mawr i mwnai"—ei urdd ef ei hun; y mae ei gydymdeimlad, nid â'r goludog, ond â'r tlawd. A gofyn uwchben. mawrion daear,—
"Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd rhain rhagor pridd y rhych?"
Urddasol ymysg rhagflaenwyr Owen Glyndŵr yw y bardd meddylgar a grymus hwn, a'i gred mewn cydraddoldeb ac addysg.
OWEN M. EDWARDS.
- LLANUWCHLLYN.
- Awst 24, 1914.