Gwaith Sion Cent/Sion Cent
← Rhagair | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
Cynhwysiad → |
SION CENT.
NID rhyfedd i gymaint amryfusedd godi ynglyn a Sion Cent, gan fod mwy na dau o'r un enw yn byw yn yr un cyfnod. O un agwedd, yr enwocaf o honynt oedd y brawd llwyd Sion Cent, neu Sion Gwent —ugeinfed geidwad ei urdd yn nhalaeth Caer Odor. Bu hwn yn ddarllenydd duwinyddiaeth yn Rhydychen; yr oedd yn ddoethawr brifysgol; "gwnaeth amryw wyrthiau drwy ystod ei fywyd, a gorwedd efe yn Henffordd"—felly cofnoda hanesion y Brodyr Llwydion ei fywyd. Hunodd tua 1348. Nid hwn oedd y bardd, ac nid oes yr un prawf gennym fod i'r bardd radd doethawr yn y brifysgol.
Ganed y bardd tua 1323, ac yn ol traddodiad yn Abertridwr lle dangosir yr ystafell y ganed ef ynddi. Cododd toreth o hanesion—"traddodiadau"—am dano. Hwyrach y gwelwn yn y rhain ddylanwad "gwyrthiau" y brawd llwyd o'r un enw. Efallai mai efe gafodd ei eni yn Abertridwr, a hwyrach y ganed y bardd ar lan Gwy. Ym Mhentyrch, dywedir, y cafodd ei addysg, gan ei ewythr—Dafydd Ddu Hiraddug (o Ewias?)—yr hwn a drigai yno.
Fodd bynnag ymunodd a'r myneich gwynion, y Sistertiaid, ym Mwstwr Gras Duw, ar gyffiniau eithaf Gwent. Ar gais Roger Cradog Esgob Llandaf (1361-1382) urddwyd ef yn is-ddiacon ac yn ddiacon gan Lewis Charlton, Esgob Henffordd ar Wyl y Pasg, 1366, ym Mosbury, fel un o fyneich Gras Duw.
Ar y Sadwrn cyn y Nadolig yn yr un flwyddyn cafodd urdd offeiriad gan yr un esgob ym Mromyard. Rhoddwyd gofal eneidiau Cent iddo. Felly cafodd gyfeillgarwch teulu Scudamor, ac o hyn tarddodd yr holl dybiau parthed ef ac Owen Glyndŵr. Hunodd tua'r flwyddyn 1420, a gorffwys yn eglwys Cent.
Perthyn barddoniaeth Sion Cent i fudiad ledaenodd drwy orllewin Ewrop ac hyd gyrrau eithaf y Werdd Ynys. Nid Sion yw yr unig fardd Cymreig roddodd fynegiant i'r yspryd hwn. Saif ymhlith y blaenaf o feirdd y mudiad—y cyffro addfedodd yn ol llaw yn y Diwygiad elwir yn Brotestanaidd. Y mae dau agwedd i'w gweled yn ei waith. Yn gyntaf y "Piwritan," cyn cynllunio'r gair. Dymunal alw ar bawb i fyw felly ger bron y Goruchaf, fel y caffent fynediad helaeth i fewn i "Fwstwr Ion." Gan hynny, traethai ar destynau crefyddol a "phrotestiai" yn erbyn pechodau a gwendidau ei oes. Ond os ceisiai argyhoeddi, nac anghofiwn fod llef gwanobaith Cymru a'i dyheadau yn adsain yn y cywyddau—llet gweledydd yn erbyn gormes a thraha yr arglwydd a'r eglwyswr. Hiraethai, gobeithaw, addaw ydoedd y goreu i'r "blaenaf nasiwn o gwmpas" a fu erioed mewn gras, a dydd pan tyddai "Cymru fawr" yn rhydd. Yr oedd ymhlith y rhai utganodd gyntaf, os nad y cyntaf, yr alwad i'r deffro arweiniodd Glyndŵr. Nid rhyfedd i'r ysgolhaig ynddo hiraethu am "yr hen wyr gynt." Yr oedd yn ddi-ameu yn wr o argyhoeddiadau cryfion, felly cymerodd ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr eglwyswr, a chydymdeimlodd a Syr John Oldcastle. Ond nid Syr John ddylanwadodd ar y bardd, gan na ymunodd ef â'r mudiad hyd 1410, ac yr oedd y bardd wedi hen ddatgan ei argyhoeddiadau cyn hynny. Y mae'n llawer mwy tebygol taw efe ddylanwadodd ar Syr John—yr oedd yn wr o gyrhaeddiadau uwch a gwell na'r Lolard—ac yn hynach dyn.
Nid ydyw fawr gwahaniaeth ai yng ngwaith Rhys Goch Eryri ynte yng ngwaith Sion Cent y cawn y mynegiant cyntaf o gyfriniaeth y canol oesau. Amlwg ydyw fod yr athroniaeth hynod honno elwir y "cabala" yn wybyddus iddo—y ddysgeidiaeth ryfedd geisiai "brofi cymaint, drwy ryw gyfrin ystyron llythrenau'r wyddor, a phethau tebyg. Nid oes angen son am oferedd yr honiadau, na'r "profion" dyddorol. Ond ni ddylem anghofio y gyfriniaeth arall y gyfriniaeth uchel honno sydd ag apel parhaus i'r meddylgar drwy'r oesau—y ddolen anesboniadwy sydd rhyngom a'r ysbrydol. Yn ei ddatganiad o hyn, ac o'i wladgarwch cawn acen uchaf athrylith y bardd.
Os ydyw enwau yn brawf, yr oedd Sion Cent yn wr hyddysg iawn, ac os ydyw cyfeiriadau yn sail, yr oedd yn adnabyddus a llên Roeg ac felly ymhell o flaen ei gyfoedion. Dyma achos arall gododd amryfusedd, gan fod dau o'r un enw, a'r ddau yn awduron. Credaf y dylid priodoli y llyfrau Lladin i'r brawd Llwyd, ac i'r bardd y llyfrau Cymreig. Heblaw y farddoniaeth sydd yma, dywedir iddo ysgrifenu gramadeg, Araeth y Tri Brawd, chwedlau, traethawd ar farddas; hefyd iddo gyfieithu Llyfr yr Offeren ac Efengyl Ioan i'r Gymraeg. Fel ereill o'r myneich gwynion yr oedd ganddo ddyddordeb mewn adaeladaeth, fel y tystia Pont Sion Cent dros y Fynwy. Tystia y cywyddau taw gwr gostyngedig o galon oedd y bardd, a chadarnha nodiad gan Iolo Morgannwg hyn. Cynhaliwyd Eisteddfod dan nawdd Llewelyn ap Gwilym yn y Ddôl Goch yn Emlyn. Daeth Sion Cent a Rhys Goch Eryri yno. Rhys oedd oreu ar foliangerdd ond Llywelyn a rodd y blaen a'r gadair i'r wengerdd, ond ni fynnai Sion y Cent ei wisgo ag addurn Cadair Ceredigion a Dyfed, eithr i Dduw y rhoddai ef y blaen, am hynny y gwedai rhai mai Duw ei hunan a enillws y gadair hon."
Cymerwyd gofal wrth ddethol y cywyddau, gan y priodolir llawer o gywyddau i Sion Cent yn unig am eu bod yn datgan symbyliadau yr un mudiad. Y mae rhai amheus yn y casgliad hwn, a nodir hynny yn y lle priodol. Sylfaen- wyd y testyn yn bennaf ar lawysgrifau Llan- ofer; y mae acen y Wenhwyseg drwyddynt, a cheisiais ei chadw. Dymunaf gydnabod y ddi- weddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lan- ofer, a'i mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert o Lanarth, am lawer caredigrwydd i mi. Boed rhad Duw arnynt.
T. MATTHEWS.