Gwaith Thomas Griffiths/Rhagymadrodd
← Gwaith Thomas Griffiths | Gwaith Thomas Griffiths Rhagymadrodd gan Thomas Griffiths, Meifod Rhagymadrodd |
Mae myrdd o ryfeddodau → |
Rhagymadrodd.
MAB hynaf Edward a Margaret Griffiths, Rhos Fawr, Meifod,—wedi hynny Cefn Da, Cegidfa,—oedd Thomas Griffiths. Ganwyd ef ym Medi, 1776. Yr oedd yn wr ieuanc hawddgar a thirion, ac ymhoffai pawb ynddo. Yr oedd o natur ddwys a meddylgar, a'i fryd ar wneyd daioni.
Hydref 10, 1804, priododd Ann Thomas,—erbyn hyn yn ferch ieuanc amddifad,—ac aeth ati i fyw i Ddolwar Fach. Wedi colli ei briod, gadawodd Ddolwar ym Mai, 1806, a daeth at ei fam i'r Ceunant, Meifod. Wedi ymweled â bedd ei wraig, meddir, y canodd ei emyn,—
Mewn hiraeth angerddol am dani, ac mewn gwaith selog gyda'r Ysgol Sul, y treuliodd weddill byrr ei oes. Bu farw yn 1808, a chladdwyd ef ym Meifod. Ysgrifennwyd bywgraffiad iddo gan John Hughes.
Cyhoeddwyd ei emynnau gan Erfyl yn 1817; codir hwy i'r dalennau sy'n dilyn o argraffiad Morris Davies.
- OWEN M. EDWARDS.