[Yn yr Hunangofiant gwelir hanes colli Margaret ar y mynydd, a hanes y brawd a'r chwaer mewn perygl am eu bywyd. Bu Margaret farw Rhag. 24ain, 1842, a chladdwyd hi yn Llanecil, ar fin Llyn Tegid. Aeth Ap Vychan i weled ei bedd, yr oedd yn anwyl iawn ganddo, a daeth adgofion mebyd yn llu i'w feddwl. Ac fe y dilyn y canodd.]
𝕯aethum yma wrth fynd heibio I chwilio am dy fedd, fy chwaer;
Ynnof, er dy ymadawiad, Bu dymuniad, teimlad taer,
Am gael gweld y fan gorweddi, Ac yr huni di mewn hedd;
Ac fe allwn, wrth alaru, Hoff gusanu llwch dy fedd.
Gwelaf natur yn adfywio, Ac yn gwisgo rhywiog wên,
Clywai adar fil yn pyncio, Pawb yn eilio'i anthem hen;
Blodau'n agor, coed yn deilio, Awel haf yn suo sydd;
Tithau'n gorwedd yn dy stafell Dywell, heb oleuni dydd.
Mae fy meddwl yn ehedeg 'Nol i adeg bore oes;
Buost ganwaith im'n siglo, Minnau'n crio'n faban croes;
Cyd-chwareuem gyda'n gilydd Ar hyd llonydd ael y llwyn;
Felly treuliem, mewn dedwyddyd, Ddyddiau hyfryd mebyd mwyn.
Rhedwn dros y nant i chware Gyda godre Gwaen y Garn:
Ofni camu—yna mentro— Mentro a syrthio dros y sarn;
Codi'n gilydd, sychu'n dillad, Yn nhywyniad heulwen haf;
Casglu llus, briallu, a blodau, Ar hyd ochrau bryniau braf.
Rhedeg am y cynta i'r gwaelod, I gael gweled pysgod gant,
Ar y tesog ddydd yn gwibio, Nofio, a neidio yn y nant;
Sefit ti ar ben y dorlan I wylio pan ddiangai'r pysg,
Minnau'n ceisio gwneuthur anrhaith, Rhuthr, a mawrwaith yn eu mysg.
Gofiaf am dy wallt modrwyog, Yn chware ar dy rywiog rudd,
A'th wynepryd bywiog, hardd—deg, Bron mor deg a hanner dydd;
Cenit inni, fel y fronfraith, Gerdd yn berffaith heb un bai,
Pan fai angen yn y teulu Am lonyddu'r plant oedd lai.
Cawsom ni oll ein gwasgaru, A'n taflu 'mhell o dy ein tad;
Cefaist ti er hynny lonydd Ar aelwydydd d' anwyl wlad;
Rhodiaist hyd ei huchel fannau, Glynau, bryniau mawr eu bri,
A chest fedd, ar ddydd dy arwyl, Yn ei hanwyl fynwes hi.
TAN Y CASTELL
Mud yw'r aelwyd lle chwareuaist, Ac y plethaist gyda'r plant
Dy ganiadau mwynion, seinber, Taro pob rhyw dyner dant;
Mae dy delyn wedi rhydu Yma, yn y llety llaith,
Lle nad oes it gyfran mwyach O gyfeillach, gwobr, na gwaith.
Cefaist enw yn nhy'r Arglwydd, O fewn ei lân fagwyrydd fe;
Ond ehedaist ffwrdd ar fyrder At y nifer sy yn y Ne;
Yr oedd nodau ffydd a chariad Yn dy holl nodweddiad di;
Ac ymddiried d'enaid uniawn Ar yr Iawn fu ar Galfari.
Ffarwel iti! Rwy'n dy alael Yma, yn dy dawel dy;
Charles a'i frodyr sy'n gym'dogion Iti yn y ddaear ddu;
Esmwyth hunwch yn y beddrod, Islaw dyrnod trallod trist;
Cewch o'r dyfnder adgyfodi, Yn nyfodiad Iesu Grist.
Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu, D'achos fo'n ymdedu 'mlaen;
Casgla 'nghyd rifedi d'eiddo, Yna dyro'r byd ar dân:
Marchog ar y cerub—tyred Mewn buddugol rwysgfawr wedd;
Barna'r bydoedd wrth y llyfrau, A bydd angau i angau a'r bedd