Gwaith yr Hen Ficer/Anerchiad i'r Brutaniaid

Galarnad Llanddyfri Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ennill Colledus

ANERCHIAD I'R BRUTANIAID.

AIL Brutus fab Sylfus, Brutaniaid brwd hoenus,
Caredig, cariadus, cyd-redwch i'm bron,
I wrando'n 'wyllysgar, â chalon ufuddgar,
Fy llefain a'm llafar hiraethlon.

Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn yn bellen
O'n heinioes nes gorffen, heb orffwys nos na dydd;
A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl,
Yn cwympo i'r trwbwl tragywydd.

Fel llong dan ei hwyle, yn cerdded ei siwrne,
Tra'r morwyr yn chware, neu chwyrnu ar y nen,
Mae'n heinoes yn pasio, bob amser, heb staio,
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.

Mae'r ange glas ynte, yn dilyn ein sodle,
A'i ddart, ac â'i saethe, fel lleidir di-sôn;
Yn barod i'n corddi, yng nghanol ein gwegi,
Pan fom ni heb ofni ei ddyrnodion.

A'r bywyd fel bwmbwl ar lynwyn go drwbwl,
Sy'n diffodd cyn meddwl ei fod ef yn mynd;
A ninne cyn ddyled nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned i helynt.

Mae'r byd ynte'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn,
Bob ennyd yn 'rofyn rhwyfo tua'i fedd;
A'i ben wedi dotio, a'i galon yn ffeintio,
A'i fwystfil yn wastio yn rhyfedd.

Rým ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon,
Yn trysto gormoddion i'r gŵr marwaidd hen;
Fel morwyr methedig, a drystant mewn perig',
I'r llongau sigedig, nes sodden.


O! nedwch in' drysto i'r byd sy'n ein twyllo,
Fel iâ pan y torro, gric, dan ein tra'd,
A'n gollwng heb wybod, i'r farn yn amharod,
Cyn ini gydnabod ei fwriad:

Ond moeswch yn garcus in' bawb fod yn daclus,
I fyned yn weddus, nis gwyddom pa awr,
O flaen y Messias, yng ngwisg y briodas,
A thrwsiad cyfaddas i'r neithiawr.

A nadwch ein dala, pan ddêl yr awr waetha,
Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystro i'r daith,
Heb oyl yn ein llestri, heb gownt o'n talenti,
A'r cwbwl o'n cyfri' yn berffaith.

Mae'r fwyall ar wreiddie y cringoed er's dyddie,
Mae'r wyntyll yn dechre dychryn yr ûs;
Mae'r angel â'r cryman yn bwgwth y graban,
I'w bwrw i'r boban embeidus.

Mae'r farn uwch ein penne, mae'r dydd wrth ein dryse,
Mae'r udgorn bob bore yn barod i roi blo'dd;
Mae'r môr a'r mynwentydd, ac uffern, yn ufudd
Roi'r meirw i fynydd a lyncodd.

A'r Barnwr sydd barod, a'r saint sy'n ei warchod,
A'r dydd sydd ar ddyfod i ddifa hyn o fyd;
A galw'r holl ddynion o flaen y Duw cyfion,
I gyfri am y gawson o'i olud.

'R ŷm ninne'n ymbesgi ar bechod a brynti,
Heb feddwl am gyfri na gorfod ei roi,
Yn wastio'n talente i borthi'n trachwante,
Doed barn, a'i diale, pan delo'i.


Fel cewri cyn diluw, fel Sodom cyn distryw,
F:el Pharo, a'r cyfryw, eu cyfri nid gwaeth,
Yr ydym yn pechu â'n grym ac â'n gallu,
Heb fedru 'difaru, ysywaeth.

Ymbesgi ar bechod, fel moch ar y callod,
Ymlenwi ar ddiod, fel ychen ar ddwr;
Ymdroi mewn puteindra, fel perchyll mewn llaca,
Yw'n crefydd, heb goffa cyfyngdwr.

Tyngu a rhegu, a rhwygo cig Iesu,
Ac ymladd am gwnnu y gawnen i gyd;
Cyfreithia'n rhy ddiriaid, nes mynd yn fegeriaid,
A gadel y gweiniaid mewn gofid.

Y mae'r haul, ac mae'r lleuad, yn gweld ein hymddygiad,
Mae'r ddaear yn beichiad ein buchedd mor ddrwg,
Mae'r sanctaidd angylion yn athrist eu calon,
O weled Cristnogion yn gynddrwg.

Mae'r 'ffeiriad, mae'r ffermwr, mae'r hwsmon a'r crefftwr,
Mae'r baili, a'r barnwr, a'r bonedd o'r bron,
Bob un am y cynta yn digio'r Gorucha,
Heb wybod p'un waetha'u harferion.

Mae'r 'ffeiriaid yn loetran, a'r barnwyr yn bribian,
Mae'r bonedd yn tiplan o dafarn i dwle;
Mae'r hwsmon oedd echdo heb fedru cwmnio,
Yn yfed tobacco yn ddidwlc.

Puteindra'r Sodomiaid, a medd-dod y Parthiaid,
Lledrad y Cretiaid, O credwch y gwir,
Ffalstedd gwlad Græcia, a gwan-gred Samaria,
Sy'n awr yn lletya ymhob rhandir.


Mae'n anfoes im draethu ein campau ni'r Cymry;
Rhag cwilydd mynegi'n hymddygiad i'r byd;
Eto, rhaid meddwl y traetha Duw'r cwbwl,
Pan ddelo'r dydd trwbwl i'w trefnyd.

Gwell i ni 'r awran gael clywed eu datgan,
Er peri i ni'n fuan 'difaru tra fom,
Na gweled ein taflu i'r tywyll garchardy,
O eisie 'difaru tra fyddom.

Gan hynny mi fynnwn gael gennych, pe gallwn,
Ymbilio am bardwn yr ennyd y boch;
A gwella'n 'wyllysgar, cyn eloi'n ddiweddar,
Rhag bod yn edifar pan ddeloch.

Mae'n ofer 'difaru, a chrio, a chrynnu,
Pan ddeler i'n barnu bawb ar y barr;
Ni cheir ond cyfiawnder, er cymaint y grier,
Pan elo hi'n amser diweddar.

Meddyliwn, gan hynny, cyn delo Crist Jesu
O'r nefoedd i'n barnu, bob un wrth ei ben,
Am fod yn edifar, a deisyf ei ffafar,
Cyn tafler ni i'r carchar anniben.

Fe ddaw yn dra digllon, a llu o angylion,
I ddial ar ddynion, ei ddirmyg mor ddu,
Yn daran echrydus i'r bobl anrasus,
Sy 'rwan mor frywus yn pechu.

Yna, o waith cymaint y fydd y digofaint,
Ei weision, a'i geraint, a garai mor gu,
A'i sanctaidd angylion, y grynant yn greulon,
Pan ddelo mor ddigllon i farnu.

Yr haul a dywylla, y lleuad a wrida,
Y nefoedd a gryna, bob modfedd yn grych,
Ar stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon,
A gria'n hiraethlon wrth edrych.

Fe dawdd y ffurfafen, fe syrthia pob seren,
Fe losga'r holl ddaren oddiarni yn boeth;
A'r tyrau a'r cestyll a gwympant yn gandryll,
A phob rhyw o bebyll a a'n bil-boeth.

Y creigyddd y holltant, y glennydd y doddant,
Y moroedd y sychant ar syrthiad y ser,
A phob rhyw fwystfilod, ymlusgiaid, a physgod,
Y drengan ar waelod y dyfnder.

Pa wasgfa, pa wewyr, pa gynffwrdd, pa gysur,
Y fydd gan bechadur na chodo ei big,
Pan gwelo'r fath drallod ar bob peth yn dyfod,
O herwydd ei bechod yn unig?

Brenhinoedd cadarnblaid, cewri, capteniaid,
Beilchion, a gwilliaid, gwycha'r awr hon,
A griant ar greigydd am bwnian eu 'mennydd,
A'u cuddio rhag cerydd Duw cyfion.

Yn hyn o lwyr drafel fe gân yr Archangel
Ei udgorn mor uchel, ond awchus y cri!
Nes clywo'r rhai meirw, yn grai ac yn groew,
Y llef yn eu galw i gyfri.

A'r meirw a godant, ar drawiad yr amrant,
O'r llwch lle gorweddant, pan glywant y cri,
A'r byw a newidir, a phawb a gyrhaeddir
I'r wybren lle bernir eu brynti.

Y Barnwr mawr, ynte, yn gyflym â'i gledde,
A'r dafal a'i bwyse, a bwysa ddrwg a da;
Gan rannu i'r eneidie, wrth gywir fesure,
Yn gyflawn i'r gore a'r gwaetha.

Nid edrych e'n llygad yr Emprwr na'r Abad,
Ni phrisia fe drwsiad na galwad un gŵr;
Ond rhannu cyfiawnder i'r Brenin a'r beger,
Heb ofni displeser na chryfdwr.


Fe egyr y llyfre, fe rwyga eu clonne,
Fe ddengys eu beie yn amlwg i'r byd;
Fe deifl anwiredd pawb yn eu dannedd,
Fe ddial ar gamwedd y gwynfyd.

Ni ddianc gair ofer, na'r ffyrling y dreulier,
Na'r funud a waster, heb ystyr na phwys;
Na gwagedd, na gwegi, na beie, na brynti,
Nes gorfydd eu cyfri yn gyfrwys.

Puteindra'r gwŷr mawrion, a'r gwragedd bon ddigion,
Sy'n arfer y gweision heb wybod i'r gwŷr,
A'r mawr-ddrwg a'r mwrddriad, y ffalstedd, a'r lledrad,
A wneir i bob llygad yn eglur.

Pa wyneb iradus, pa galon echrydus,
Pa gynffwrdd gofidus (gwae feddo'i fath),
A fydd y pryd hynny, gan bobl sydd heddy'
Mor ffyrnig yn pechu, ysywaeth!

Ni ddianc na llymaid, na thipyn, na thamaid,
Y roddir i'r gweiniaid, er mwyn Iesu gwynn,
Heb ymdal am dano, a chyfri', a chofio
Y briwsion a ballo y cerlyn.

Yno y detholir y defaid a'r geifir,
Ac yno y bernir pawb wrth y pôl,
Y defaid i'r deyrnas, mewn harddwch ac urddas,
A'r geifir i'r ffyrnais uffernol.

Yno yr a'r cyfion, yn llawen eu calon,
Mewn gynau tra gwynion, yn union i'r nef,
I dderbyn goresgyn o'r deyrnas ddiderfyn,
Y roddodd Duw iddyn' yn gartref.

A'r geifir damnedig, a'r bobol fileinig,
Sy 'rywan yn dirmyg y Barnwr a'r dydd,

A deflir yn g'lyme, mewn cedyrn gadwyne,
I uffern, i'r poene tragywydd.

Yn uffern y llefan, gan flined eu llosgfan,
Yn ebrwydd, ar Abra'm, am ddafan o ddwr;
Pe llefent hyd ddiffin, ni chânt hwy un dropyn,
Na thamaid, na thipyn o swcwr.

Can's yno'n dragywydd, mewn carchar a chystudd
(Heb obaith y derfydd eu dirfawr gur),
Yr erys anwiredd, yn rhincian eu dannedd,
Heb derfyn na diwedd o'u dolur.

Ac yno'r awn ninne, i estyn ein gwefle,
Am dreulio ein dyddie mewn pechod mor dal,
O ddiffyg in' wylio, a dyfal weddio,
A gwella, cyn delo'r dydd dial.

Meddyliwn, gan hynny, tra'r amser yn gadu,
Yn brudd edifaru, nid yw foru i neb,
A 'madael â'n brynti, a'n gwagedd, a'n gwegi,
Cyn delom i gyfri' ac ateb.

Duw Iesu dewisol, y brynaist dy bobol,
O'r ffwrnais uffernol, oedd ffyrnig ei phwys,
Cadw'n heneidie pan ddelont i'r frawdle,
A dwg hwy i gadeirie paradwys.

Os gofyn Deheubarth, na Gwynedd o unparth,
Pwy ganodd y dosparth, i'ch dispwyll rhag ing,
Eglwyswr, sy'n hoffi eich dad'raidd o'ch didri,
A'ch cofio am eich cyfri' cyfyng.


Nodiadau

golygu